Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae gennym enw da yng Nghymru o ran lleihau nifer yr achosion o dân a difrifoldeb tanau. Mae nifer yr anafiadau a marwolaethau wedi mwy na haneru ers datganoli’r cyfrifoldeb am wasanaethau tân yn 2004-5; ac nid oes diffoddwyr tân wedi marw tra’u bod yn gwasanaethu ers hynny.
Fodd bynnag, mae bob amser le i wneud mwy. Mae gormod o ddigwyddiadau difrifol o hyd – tân sy’n achosi i aelodau o’r cyhoedd gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol, a/neu sy’n peri risg difrifol a heb ei reoli i ddiogelwch diffoddwyr tân. Mae lleihau nifer a difrifoldeb digwyddiadau o’r fath yn dibynnu ar ddeall beth sy’n eu hachosi a sut y gellid eu hatal.
Mae tân difrifol yn aml yn destun ymchwiliadau gan yr Heddlu neu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, neu gwest Crwner. Mae’r ymchwiliadau hyn yn hanfodol, wrth gwrs, ond maent yn canolbwyntio’n benodol ar ganfod pwy oedd ar fai, pwy sy’n atebol neu achos y farwolaeth. Oherwydd hynny, mae’n rhaid iddynt sefydlu pob ffaith ynghylch y digwyddiad ac, yn aml, maent yn cynnwys cyfweliadau gyda thystion, profion gwyddonol ac achosion cyfreithiol sy’n para misoedd lawer. Nid ydynt wedi’u cynllunio i ganfod a chyhoeddi gwersi ehangach am achosion tân, sut y gellid bod wedi’i atal neu sut y gallai’r Gwasanaeth Tân ymateb yn effeithiol i dân tebyg. .
Mae gwersi o’r fath yn hollbwysig wrth leihau’r risg i’r cyhoedd, diffoddwyr tân a gweithwyr argyfwng eraill. Mae’n rhaid eu sefydlu a’u rhoi ar waith yn gyflym, a heb geisio canfod pwy oedd ar fai. Mae angen proses ymchwilio annibynnol a gwrthrychol ar gyfer hynny. Mae sectorau eraill lle mae diogelwch yn hanfodol, megis y diwydiant awyrennau, yn cydnabod hyn ers amser maith. Er bod Awdurdodau Tân ac Achub ac Undeb y Brigadau Tân eisoes yn cynnal ymchwiliadau, nid oes dull gweithredu cyson, gwrthrychol ac annibynnol ledled Cymru.
Mae’r Prif Gynghorydd Tân ac Achub mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu hyn. Felly, heddiw rwyf wedi cyhoeddi protocol sy’n datgan sut a pha bryd y cynhelir ymchwiliadau a gaiff eu cydgysylltu drwy’r Cynghorydd, y broses benderfynu ar gyfer ymchwiliadau o’r fath, a beth fydd rhan partïon eraill â buddiant yn yr ymchwiliadau hyn.
Nid dyblygu neu darfu ar waith ymchwilio gan gyrff eraill, megis yr Heddlu a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yw nod y protocol hwn. Nid yw ynglŷn â rhoi bai ar neb chwaith. Ei nod yw sicrhau bod trefniadau’n bodoli pan fo angen casglu gwybodaeth ddigonol a chanfod, yn fuan yn y broses, y gwersi pwysig a allai wella diogelwch staff neu’r cyhoedd.