Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Mae Deddf Cymru 2014 yn diwygio Deddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 trwy osod dyletswydd newydd ar Gomisiwn y Gyfraith i roi cyngor a gwybodaeth i Weinidogion Cymru. Mae hyn yn ei gwneud yn glir y bydd Gweinidogion Cymru’n gallu cyfeirio materion diwygio’r gyfraith yn uniongyrchol at Gomisiwn y Gyfraith ac elwa ar ei gyngor. Mae Deddf 2014 hefyd yn mewnosod adran newydd yn Neddf 1965 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru a Chomisiwn y Gyfraith gytuno ar brotocol ynghylch sut y byddwn yn cydweithio.
Rwyf yn falch o ddweud wrth yr Aelodau imi lofnodi protocol ar 2 Gorffennaf 2015 rhwng Gweinidogion Cymru a Chomisiwn y Gyfraith ar waith Comisiwn y Gyfraith yn ymwneud â materion Cymreig datganoledig. Mae copi o’r protocol wedi’i osod heddiw yn y Cynulliad.
Bu perthynas Llywodraeth Cymru â Chomisiwn y Gyfraith ar i fyny yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag ymgysylltiad cynyddol rhyngddynt. Yn ogystal â’r protocol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) sy’n seiliedig ar waith cynharach Comisiwn y Gyfraith yn sgil cwblhau ei brosiect ar ddiwygio’r sector tai rhent. Mae Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) yn un o’r darnau mwyaf arwyddocaol o ddeddfwriaeth i gael eu cyflwyno yn ystod y Cynulliad hwn a bydd yn helpu dros filiwn o bobl yng Nghymru sy’n rhentu eu cartrefi.
Mae Deuddegfed Raglen Comisiwn y Gyfraith o ddiwygio’r gyfraith hefyd yn cynnwys prosiect cynghorol a phrosiect llawn diwygio’r gyfraith yn ymwneud â Chymru. Bydd y prosiect cynghorol ynghylch ffurf a hygyrchedd y gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru’n destun papur ymgynghori cyn hir ac edrychaf ymlaen at ei weld yn cael ei gyhoeddi. Mae trafodaethau’n parhau ar brosiect y Gyfraith Gynllunio.
Yn olaf, hoffwn fynegi fy niolch i Syr David Lloyd Jones, sy’n ymadael â’i swydd fel Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith ym mis Awst. Hoffwn ddiolch iddo yn arbennig am ei ymrwymiad wrth sicrhau bod materion Cymru’n elfen gref yng ngwaith y Comisiwn. Rwyf yn hyderus y bydd ei olynydd, Syr David Bean, yn adeiladu’n gryf ar y sylfeini hynny.