Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi cyflwyno ein protocol dŵr rhynglywodraethol ar gyfer Cymru a Lloegr ger bron y Cynulliad (dolen allanol), hynny ar ôl cydweithio i’w ddatblygu â Defra a Swyddfa Ysgrifennydd Gwlad Cymru.  Gwnaed y Protocol o dan adran 50 Deddf Cymru 2017 a chafodd ei roi ger bron Senedd y Deyrnas Unedig hefyd. 


Mae’r protocol yn cadarnhau’r cydweithio clos a fu rhwng ein dwy weinyddiaeth ar fater hanfodol adnoddau dŵr, y cyflenwad dŵr ac ansawdd dŵr.  Mae’n tanlinellu ein hymrwymiad na chaiff unrhyw beth a wneir neu na wneir gan y naill weinyddiaeth neu’r llall effaith andwyol ddifrifol ar Gymru nac ar Loegr ac y diogelir buddiannau cwsmeriaid ar ddwy ochr y ffin.

Mae’r Gwir Anrh Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrthi’n paratoi Gorchymyn Cychwyn i ddiddymu’r pwerau ymyrryd presennol ym maes dŵr.

Disgwylir i’r newidiadau hyn ddod i rym ar 1 Ebrill 2018.