Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau
Rwyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ein cynlluniau ar gyfer prosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn 2013-16.
Bydd yr Aelodau yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Gronfa Ddysgu ym mis Ebrill 1999 er mwyn datblygu gallu o fewn y mudiad Undebau i gynnig cymaint o gyfleoedd dysgu â phosibl i unigolion a chyflogwyr. Ers hynny, mae’r Gronfa Ddysgu wedi helpu 166 o brosiectau ac mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £13m. Rwy’n dal yr un mor benderfynol i barhau i ddatblygu’r maes hwn.
I’r perwyl hwn, mae fy swyddogion innau a TUC Cymru wedi bod yn cydweithio i sicrhau bod prosiectau cyfredol a newydd y Gronfa yn cydweddu’n fwy â pholisi a rhaglenni Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o wella sgiliau hanfodol yn y gweithle, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y ceisiadau a ddaeth i law.
Dechreuodd cylch ceisiadau cyfredol y Gronfa Ddysgu ar 1 Medi 2012 a daeth i ben ar 31 Hydref 2012.
Daeth un cais ar hugain i law, gwerth £3,731,769.53 ar gyfer y cyfnod tair blynedd.
Ar 28 Tachwedd 2012, daeth panel asesu annibynnol o uwch-swyddogion EEF ynghyd – Sefydliad y Gweithgynhyrchwyr, TUC Cymru a Llywodraeth Cymru – i asesu a sgorio’r ceisiadau yn erbyn y meini prawf ym Mhrosbectws y Gronfa Ddysgu.
Rwy’n falch o nodi bod ansawdd y ceisiadau yn uchel iawn a bod iddynt gysylltiad clir ac uniongyrchol â rhaglen Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle Llywodraeth Cymru.
Cymeradwyodd y panel ugain o geisiadau ac fe’u cadarnheais innau nhw. Mae’r manylion isod.
- Bydd prosiect Dysgu Gwneud Gwahaniaeth yn cynnig cyfleoedd i wella sgiliau gweithwyr ‘anodd eu cyrraedd’ sydd wedi’u cyflogi i ddarparu gwasanaethau yn y Gogledd, yn y GIG, y Cydwasanaethau a’r Gwasanaethau Brys, gan gynnwys staff Ambiwlans, yr Heddlu a’r Awdurdod Tân. (Unsain)
- Bydd Cysylltu Dysgwyr yn cynnig cyfleoedd i wella sgiliau gweithwyr ‘anodd eu cyrraedd’ sydd wedi’u cyflogi i ddarparu gwasanaethau yn y Gogledd, yn y Sector Cymunedol a Gwirfoddol, Awdurdodau Lleol, y sector iechyd a gofal cymdeithasol anstatudol (Cartrefi Nyrsio Preifat, cartrefi preswyl heb eu cofrestru ac ati), Tai Cymdeithasol a Chwmnïau Tai Cymunedol Cydfuddiannol.(Unsain)
- Bydd Cysylltu Dysgwyr yn y De a’r Canolbarth yn cynyddu effeithiolrwydd dysgu seiliedig ar waith (gyda ffocws penodol ar sgiliau hanfodol llythrennedd, rhifedd a TG ar draws meysydd gofal cymdeithasol a thai. (Unsain)
- Bydd DigiSkills Cymru yn cynnig cyfleoedd i weithwyr sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru wella eu sgiliau digidol a chynyddu eu gallu i ddysgu a gweithio ar-lein. Bydd hefyd yn creu rhwydwaith o “Hyrwyddwyr Digidol” a gaiff eu hyfforddi i weithio mewn gwasanaethau cyhoeddus, a bydd yn helpu i ddatblygu “Canolfannau Cymunedol ar gyfer Dysgu Digidol”.(Unsain)
- Dysgu Personol a Phroffesiynol i Fydwragedd a Gweithwyr Cymorth Mamolaeth yng Nghymru – gweithio gyda Byrddau Iechyd Lleol a’r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd.(Coleg Brenhinol y Bydwragedd)
- Nod Llwybrau at Ddysg yw darparu cyfleoedd dysgu wedi’u teilwra i staff i ategu rhaglen hyfforddi’r gwasanaeth. Bydd y prosiect hefyd yn ehangu ei gymorth i staff sydd wedi’i secondio a staff y mae “prosiect Blaen Gar” yn effeithio arnynt efallai. (NAPO)
- Bydd prosiect Sicrhau Dysg i Bawb yng Nghymru yn ehangu cyfleoedd i filoedd o weithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru. Yn ogystal ag ategu dysg draddodiadol, bydd yn darparu cyfleoedd dysgu ar gyfer gweithwyr sydd wedi’u heithrio yn eu cymunedau a thrwy ganolfannau dysgu symudol ar sgiliau hanfodol a dysgu galwedigaethol.(PCS Cymru)
- Ehangu’r cyfleoedd i ddysgu sgiliau hanfodol yn y gweithle. Bydd y prosiect yn cynyddu nifer y bobl a all fanteisio ar ddysgu gydol oes yng ngweithleoedd Usdaw ledled Cymru. Bydd yn ei gwneud yn bosibl i fwy o safleoedd manwerthu gymryd rhan ac yn cynyddu’r ddarpariaeth sydd ar gael ym mhob gweithle perthnasol. (Usdaw)
- Helpu i Ddatblygu Sgiliau mewn Diwydiant sy’n Newid yn Gyflym, yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi sy’n derbyn cymhorthdal i weithwyr y cyfryngau yng Nghymru, ac yn helpu gweithwyr sy’n agored i niwed drwy ddirwasgiad i adferiad.(NUJ)
- Prosiect Addysgu’r Addysgwyr – Teaching the Teachers, y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Rhwydwaith o Gynrychiolwyr Dysgu Undebau ledled Cymru gan hyrwyddo dysgu gydol oes ymhlith athrawon.(NUT)
- Bydd prosiect Meithrin Sgiliau Hanfodol a Dysgu yn y Gweithle a’r Gymuned (y Sector Adeiladu a’r Sectorau Cysylltiedig) yn cynnig cyfleoedd dysgu yn y gweithle a’r gymuned. Bydd yn: ategu gweithgarwch ‘Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle’; mynd i’r afael â rhwystrau i ddysgu a’r ‘rhaniad digidol’; helpu i gymhwyso’r gweithlu adeiladu; a gwella sgiliau, hyder a gallu dysgwyr.(UCATT)
- Cam i Fyny i Ddysgu 5 (Rhan A) – bydd prosiect Adeiladu ar Lwyddiant yn adeiladu ar fodelau dysgu yn y gweithle sydd wedi ennill eu plwyf i annog mwy o bobl i feithrin sgiliau a dysgu yn y gweithle. Bydd y prosiect yn sefydlu ymgyrchoedd dysgu a sgiliau ac yn eu cysylltu ag ymgyrchoedd Unite er mwyn prif-ffrydio dysgu a sgiliau fel mater allweddol ar gyfer yr undeb.(UNITE)
- Cam i Fyny i Ddysgu 5 (Rhan B) - Nod prosiect Cefnogi Llwyddiant yw mynd i’r afael â’r heriau enfawr sy’n wynebu economi a gweithlu Cymru dros y tair blynedd nesaf drwy adeiladu ar fodelau dysgu yn y gweithle sydd wedi ennill eu plwyf i annog mwy o bobl i ddysgu yn y gweithle.(UNITE)
- Nod Cyfranogiad drwy Bartneriaeth II yw datblygu dulliau o oresgyn yr heriau penodol y mae gweithgynhyrchwyr bwyd yn eu hwynebu yng Nghymru. Bydd y prosiect yn parhau i weithio gyda nifer o gyflogwyr partner mawr, annog gweithwyr anhraddodiadol, agored i niwed, i ddysgu, a datblygu cyngor a chanllawiau ar sgiliau gweithwyr dros dro, rhan-amser ac asiantaeth yn y diwydiant.(BFAWU)
- Partneriaeth yw Sgiliau Crefft a Thechnegol ar gyfer Gweithwyr Creadigol rhwng undeb llafur BECTU, cyflogwyr a cholegau addysg bellach sydd wedi ymrwymo i gydweithio i gefnogi proffesiynolion y diwydiant a phobl sy’n ymuno â’r maes, i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth er budd unigolion a chyflogwyr yn y sector strategol bwysig hwn yng Nghymru.(BECTU)
- CULT Cymru – Creative Unions Learning Together yn gweithio mewn partneriaeth i wella sgiliau a datblygu gwybodaeth gweithwyr creadigol.(BECTU, EQUITY, MU a WGGB)
- Menter gydweithredol arloesol yw’r Rhaglen Partneriaeth Ddysgu rhwng yr Undebau Rheilffyrdd, Cwmnïau Gweithredu Trenau a Darparwyr Dysgu sy’n gweithio mewn partneriaeth i ysbrydoli diwylliant o ddysgu yn y gweithle drwy greu cyfleoedd dysgu ar gyfer gweithwyr rheilffyrdd ledled Cymru.(ASLEF)
- Nod Adeiladu ar gyfer y Dyfodol yw datblygu cynllun hirdymor ar gyfer cynyddu lefelau sgiliau dysgwyr, gan barhau ar yr un pryd i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau hanfodol a chynyddu cyfleoedd dysgu.(Community)
- Nod Hyrwyddo a Darparu yw sefydlu rhaglenni sgiliau hanfodol mewn gweithluoedd ledled Cymru.(GMB)
- Bydd prosiect Taith Ddysgu yn defnyddio pob math o syniadau arloesol i ennyn brwdfrydedd gweithwyr rheilffyrdd yng Nghymru mewn sgiliau hanfodol. Y prif ffigyrau yn y prosiect cydweithredol hwn yw undeb RMT a Network Rail.(RMT)
O gofio’r heriau economaidd parhaus rydym yn eu hwynebu, rwyf wedi ymrwymo i godi lefel sgiliau a chynyddu cyfleoedd dysgu drwy gysylltiad â’r mudiad undebau llafur drwy raglen y Gronfa Ddysgu. Wrth wneud hynny, rydym yn codi safonau yn y rhan fwyaf canolog o economi Cymru.
Mae angen inni adeiladu ar arferion gorau a dysgu oddi wrthynt, ac mae fy swyddogion yn cydweithio’n agos â TUC Cymru, a phartneriaid allweddol eraill, i barhau i hyrwyddo datblygiad sgiliau o fewn busnesau Cymru.