Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hyd yma, mae Cronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £102 miliwn mewn 94 o brosiectau. Mae gwaith dadansoddi annibynnol wedi dangos bod y gronfa'n creu £3 o fuddion gros am bob £1 sy'n cael ei gwario.

Mae'n bleser gen i gyhoeddi bod mwy na £10 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau newydd i wella gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i rownd ddiweddaraf y Gronfa Buddsoddi i Arbed.

Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu 23 o brosiectau. Mae'r sefydliadau a fydd yn cael cymorth yn amrywio o Fyrddau Iechyd, i awdurdodau lleol, a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch.  

Mae'r prosiectau hyn yn dangos bod arferion da - o Gymru, o weddill y DU ac yn ehangach - yn lledaenu. Ar yr un pryd mae'n dangos y bydd y buddsoddiad yn cyd-fynd â syniadau newydd ac arloesol sy'n cael eu datblygu yng Nghymru ynghylch darparu gwasanaethau, a fydd maes o law yn dod yn arfer da ar gyfer y dyfodol. Ceir hefyd nifer o gynlluniau sy'n canolbwyntio ar arbed ynni a lleihau allyriadau carbon yn ogystal â lleihau costau.  

Mae'r buddsoddiadau diweddaraf ar gyfer y gwasanaeth gofal iechyd yng Nghymru yn cynnwys:

  • £810,000 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i helpu dau brosiect; un i wella'r ffordd y caiff wardiau ysbytai eu rheoli a'r ail i wella'r ffordd y caiff adnoddau theatr eu defnyddio. Gyda'i gilydd, bydd y cynlluniau hyn yn sicrhau arbedion a fydd yn rhyddhau £450,000 y flwyddyn o 2016-17;
  • £1.2 miliwn i ariannu tri phrosiect ym Mwrdd Addysgu Iechyd Powys. Mae £407,000 o'r arian hwn i’w ddefnyddio ar gyfer newidiadau i wasanaethau fferylliaeth cymunedol a fydd yn sicrhau arbedion i ryddhau £250,000 y flwyddyn o 2016-17. Yr ail gynllun yw datblygu Timau Adnoddau Cymunedol a fydd yn gwella gofal cleifion yn y gymuned ac yn sicrhau arbedion o £588,000 y flwyddyn o 2016-17. Mae'r trydydd cynllun yn cynnwys cyflwyno E-Amserlenni ar gyfer gweithlu'r bwrdd iechyd. Dyma ddull sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn byrddau iechyd eraill i leihau costau oriau ychwanegol a'r defnydd o staff allanol, ac amcangyfrifir y bydd yn arbed £136,000 y flwyddyn o 2016-17;     
  • Mae £1.6 miliwn yn cael ei neilltuo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i gefnogi nifer o ddulliau newydd ac arloesol a fydd yn gwella gofal cleifion ac yn sicrhau effeithlonrwydd. Mae'r prosiectau y mae Cwm Taf yn bwriadu eu rhoi ar waith yn cynnwys darparu therapyddion acíwt, gwella gofal a phroses adsefydlu ar gyfer cleifion sydd wedi cael strôc, a'r defnydd o dechnoleg symudol i wella gwaith yn y gymuned. Yn sgil y buddsoddiad hwn, disgwylir y bydd arbedion o £2.3 miliwn y flwyddyn yn cael eu creu erbyn 2018-19;  
  • Mae £395,000 yn cael ei ddarparu i Gydwasanaethau'r GIG ar gyfer prosiect i ddatblygu fframwaith ar y cyd rhwng y GIG ac awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau gofal i grwpiau sy'n agored i niwed. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft o sut y gall cydweithio nid yn unig wella gwasanaethau ond hefyd sicrhau buddion ariannol sylweddol. Amcangyfrifir y bydd arbedion sy’n rhyddhau gwerth tua £2.2 miliwn y flwyddyn yn cael eu sicrhau erbyn 2016-17;  
  • £1.1 miliwn ar gyfer cynlluniau gadael swydd yn gynnar o wirfodd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a fydd yn helpu’r broses o ailstrwythuro staff yn y sefydliadau hyn.

Bydd awdurdodau lleol yn elwa ar:

  • £1.6 miliwn ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy i ariannu prosiect Doethwaith Conwy sy'n gwneud gwell defnydd o asedau ac yn datblygu ffyrdd newydd o weithio gan ddefnyddio systemau rheoli dogfennau'n electronig;
  • £130,000 i Gyngor Dinas Casnewydd i fuddsoddi mewn cynnal a chadw ffyrdd a thechnoleg ar gyfer rheoli a fydd yn helpu i wella'r rhwydwaith ffyrdd yng Nghasnewydd a sicrhau arbedion o £100,000 erbyn 2018-19.

Bydd y sector addysg bellach hefyd yn elwa ar:

  • £775,000 i Goleg Caerdydd a'r Fro i alluogi llwyfannau digidol i gael eu datblygu er mwyn rheoli perthynas y coleg â myfyrwyr, cyflogwyr a phartneriaid. Bydd y prosiect hwn yn symleiddio prosesau cefn swyddfa ac yn gwella'r ffordd y mae'r coleg yn ymwneud â'i randdeiliaid. Dyma'r prosiect cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac yn ogystal â gwella safonau’r gwasanaeth y gall y coleg ei gynnig, amcangyfrifir y bydd y prosiect yn sicrhau buddion ariannol o £750,000 y flwyddyn erbyn 2018-19;


Bydd cynlluniau arbed ynni hefyd yn gwneud gwahaniaeth ar draws y Sector Cyhoeddus:

  • £959,000 ar gyfer ystod o gynlluniau arbed ynni ledled Cymru. Mae £325,000 yn cael ei fuddsoddi mewn golau LED yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Yn y GIG, bydd Bwrdd Addysgu Iechyd Powys yn cael £167,000 a bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cael £317,000 ar gyfer cynlluniau optimeiddio foltedd a golau LED. Caiff £150,000 ei fuddsoddi mewn prosiect ar draws nifer o safleoedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Gyda'i gilydd, bydd y cynlluniau hyn yn lleihau allyriadau carbon o 1,200 tunnell y flwyddyn o leiaf a fydd yn sicrhau arbedion i ryddhau £333k y flwyddyn erbyn 2017-18; 
  • Yn olaf, bydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn elwa ar £1.5 miliwn tuag at gynllun gadael swydd yn gynnar o wirfodd a fydd yn deillio o ailstrwythuro'r gweithlu i wella effeithlonrwydd.


Mae'r datganiad hwn yn trafod y gyfran gyntaf o gynlluniau o'r rownd ddiweddaraf o gyllid Buddsoddi i Arbed. Mae cynlluniau ychwanegol yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a byddaf yn rhoi manylion am y prosiectau hyn i Aelodau'r Cynulliad yn ddiweddarach yn y flwyddyn.