Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Rhif y Daliad (CPH) yn bwysig gan mai dyma sail nifer o’r systemau rheoli da byw a ddefnyddir i adnabod daliadau fferm. Felly, mae’n hanfodol ar gyfer adnabod ac olrhain lleoliad gwartheg, defaid, geifr a moch, fel sy’n ofynnol gan  Reoliadau Ewropeaidd.

Mae argymhelliad 32 o adroddiad Gareth Williams ar Hwyluso’r Drefn yn datgan “Rhaid i Lywodraeth Cymru fwrw iddi’n ddi-oed gyda’r prosiect trosglwyddo Rhif y Daliad er mwyn pennu system o fesurau rheoli symudiadau sy’n synhwyrol, yn gredadwy, yn syml ac yn hawdd ei deall. Rhaid i’r prosiect geisio cael gwared ar y cysylltiadau di-ri rhwng Rhif y Daliad, y SOA a’r CTS a’r holl amrywiadau cyfredol sy’n ychwanegu at gymhlethu’r system yn ddiangen ar hyn o bryd.”

I ymateb i argymhellion Gareth, a’r farn gyffredin yn y diwydiant fod raid canfod ateb i’r mater hwn, rwyf wedi penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i gyflwyno gwelliannau i system Rhif y Daliad yng Nghymru. Mae fy swyddogion wedi cydweithio’n agos â rhanddeiliaid a phartneriaid er mwyn diffinio beth i’w gynnwys yn y system well a newydd hon.

Mae fy mhenderfyniad i ad-drefnu system Rhif y Daliad yn golygu cael gwared ar y cysylltiadau rhwng yr Awdurdodau Meddiannaeth Unigol (yr SOAau) a’r System Olrhain Gwartheg (y CTS). Drwy weithredu rheol 10 milltir, gall ceidwaid da byw wneud eu busnesau’n fwy effeithlon drwy roi cyfle iddynt reoli’r holl barseli tir sydd o dan eu rheolaeth o fewn 10 milltir i’w prif ddaliad; a gwneud hyn o dan un Rhif y Daliad. Oherwydd pwysigrwydd y rheol 10 milltir arfaethedig, rwy'n bwriadu cynnal ymgynghoriad llawn ar y cynnig yn ystod y Gwanwyn.

Bydd parseli tir o fewn Rhif y Daliad yn cael ei gysylltu ar y System Adnabod Parseli Tir (yr LPIS), a bydd hyn yn rhoi cofnod llawer gwell o’r daliad i Lywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a’r Labordai Milfeddygol (yr AHVLA). Gellir rhoi ymateb cynt a mwy effeithiol i unrhyw achosion o glefydau anifeiliaid, a rhoi cymorth i Gymru sicrhau cyllid parhaus gan Ewrop tuag at ein cynllun i ddileu TB.


Mae fy mhenderfyniad yn golygu buddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth i’r diwydiant amaeth yng Nghymru. Bydd yn gymorth i symleiddio’r system bresennol, yn sefydlu rheolau cyson mewn perthynas â rhywogaethau, ac yn lleihau’r baich gweinyddol ar ffermwyr, a hynny yn unol â’n hamcanion yn Hwyluso’r Drefn.

Bydd cyfnod o waith datblygu ar systemau cyfrifiadurol cyfredol Llywodraeth Cymru yn cychwyn gyda hyn. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda’r prif randdeiliaid a’r asiantaethau sy’n bartneriaid inni, megis Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a’r Labordai Milfeddygol (yr AHVLA) a’r Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (y BCMS). Rwy’n disgwyl i systemau busnes newydd Rhif y Daliad gychwyn yn 2015. Yn y cyfnod pontio, sef o 1 Tachwedd 2013 ymlaen, ni dderbynnir unrhyw geisiadau newydd yn ymwneud â’r Cytundeb Meddiannaeth Unigol (SOA) na cheisiadau i ychwanegu daliadau newydd i SOAau cyfredol. 
Ar yr un pryd â’r systemau newydd, bydd fy swyddogion yn dechrau gweithio ar y gwaith o gyfleu’r negeseuon pwysig sy’n ymwneud â’r mater hwn er mwyn sicrhau bod ffermwyr unigol yn deall sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt ac o fantais iddynt.