Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Rwyf yn ysgrifennu at yr Aelodau er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am hynt y gwaith ar Brosiect Deuoli'r A465 Blaenau'r Cymoedd.
Fel y nodwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig a wnaed gennyf ar 27 Tachwedd 2017, mae rhan 2, o Gilwern i Fryn-mawr, yn brosiect hynod anodd. Mae topograffi’r safle, y gofynion rheoli traffig a’r amgylchiadau cymhleth ar y tir wedi golygu bod y prosiect yn llawer anos ei gyflawni nag a ragwelwyd yn wreiddiol.
O'r herwydd, gofynnais am adolygiad masnachol cynhwysfawr o'r prosiect, ac amlinellwyd canlyniadau'r adolygiad hwnnw yn y Datganiad Ysgrifenedig a wnaed gennyf ar 27 Tachwedd 2017.
Yng ngoleuni hyn, mae fy swyddogion yn cynorthwyo Swyddfa Archwilio Cymru, sydd wrthi'n cynnal adolygiad o'r prosesau caffael a chyflawni a ddefnyddiwyd ar y prosiect hyd yma. Mae'r adolygiad hwnnw wrthi'n cael ei gynnal ar hyn o bryd a bydd adroddiad ar gael yn y man.
Ni fyddwn yn cyfaddawdu ar ansawdd y prosiect y gwnaethom ymrwymo i'w gyflawni yn ystod yr Ymchwiliad Cyhoeddus yng ngwanwyn 2014, ac mae swyddogion yn yr adran Drafnidiaeth yn parhau wrthi'n rheoli'r prosiect er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithlon i fodloni gofynion y rhaglen a hefyd y gofynion o ran cost. Maent hefyd yn gweithio gyda'r contractwr, Costain, gan ddefnyddio darpariaethau yn y contract i ddatrys y materion y mae'r ddau barti'n anghytuno yn eu cylch. Mae'r anghydfod yn parhau ac nid yw'n briodol dweud dim mwy am y materion hynny ar hyn o bryd.
Wedi dweud hynny, mae'r gwaith yn parhau i fynd rhagddo'n gyflym ac mae rhyw dwy ran o dair o'r prosiect wedi'u cwblhau bellach. Mae'n dod ag amryfal fanteision i'r gymuned o ran cyflogaeth, addysg a hyfforddiant yn lleol. Mae Tasglu'r Cymoedd yn ystyried sut y gallwn elwa i'r eithaf ar y manteision hynny pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau ddiwedd y flwyddyn nesaf hon, er mwyn helpu i wireddu'r weledigaeth a amlinellir yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Cynhaliwyd seminar ym mis Mawrth gyda rhanddeiliaid o bob rhan o'r Cymoedd ac mae'r canlyniadau'n cael eu crynhoi ar hyn o bryd. Bydd cynllun gweithredu yn cael ei drafod gyda rhanddeiliaid mewn digwyddiad arall yn yr hydref.
Mae pawb sy'n gysylltiedig â'r prosiect yn parhau i fod yn hynod ddiolchgar i'r rheini sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal am eu hamynedd wrth i'r gwaith fynd rhagddo.