Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth i raglen bresennol Tasglu’r Cymoedd dynnu at ei therfyn ar ôl pum mlynedd, mae angen i’r canlyniadau barhau ymhell y tu hwnt i dymor y llywodraeth hon. Nid oes modd gwadu bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â rhai o’r problemau sydd wedi hen ymwreiddio yng Nghymoedd y De, a’n bod yn croesawu cyfle i adfywio a datblygu’r ardal hon ymhellach. 

Mae Llywodraeth Cymru am fuddsoddi ymhellach i ddatblygu Blaenau’r Cymoedd yn strategol i’r dyfodol drwy gyfrannu at brosiect adfywio treftadaeth uchelgeisiol ugain mlynedd y Crucible. Cyfrannodd Tasglu’r Cymoedd £80,000 i ddechrau i astudiaeth archifau i greu glasbrint ar gyfer y prosiect nodedig hwn. Nod y prosiect yw dathlu a iacháu’r amgylchedd naturiol ac ôl-ddiwydiannol i ddarparu lleoliad hardd ar gyfer gweithgareddau hamdden, gan harneisio’r potensial o ran twristiaeth ar yr un pryd.

Bellach, mae Tasglu’r Cymoedd wedi darparu £1.2m ychwanegol ar gyfer y prosiect pwysig hwn wrth iddo symud i’r cam nesaf a dechrau gweithredu Cynllun Cyfarthfa, cynllun strategol amlhaen llawn gweledigaeth ar gyfer ardal dreftadaeth Cyfarthfa, Merthyr Tudful a thu hwnt, i’w weithredu dros yr ugain mlynedd nesaf. Gallai gymryd dau ddegawd i wireddu’r Prosiect yn llawn – sydd o bwys lleol, rhanbarthol a chenedlaethol – ond mae’n glir y bydd y cyfnod pum mlynedd cychwynnol yn hanfodol i’w lwyddiant a’i fomentwm.

Bydd allbwn y Prosiect yn help economaidd i Ferthyr ac ardal Blaenau’r Cymoedd yn ehangach. Bydd yn creu twf economaidd a manteision i bobl a llefydd, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol, a manteision iechyd. Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu Parc Rhanbarthol y Cymoedd, dynodwyd Parc Cyfarthfa hefyd yn un o’n Safleoedd Darganfod, ac i fod yn ddrws i’n hardaloedd gwyrdd ar draws y Cymoedd. 

Caiff y prosiect ei gefnogi ar draws Llywodraeth Cymru, a bydd yn cael effaith bositif ar ddatblygiad economaidd, gwaith adfywio, diwylliant, twristiaeth a threftadaeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â Sefydliad Cyfarthfa ac â phartneriaid er mwyn gweithredu’r prosiect yn llwyddiannus a sicrhau mynediad at gyllid.