Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach eleni, mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein bod yn lansio system newydd ar gyfer diffinio daliadau amaethyddol (y cyfeirnod CPH ‒ Sir, Plwyf, Daliad) a chofrestru tir dros dro yng Nghymru.
Wrth drosglwyddo i’r rheolau busnes newydd ar gyfer CPH, bydd y system sy’n bodoli ar hyn o bryd yn cael ei symleiddio a bydd rheolau cyson yn cael eu sefydlu ar gyfer yr holl rywogaethau. Bydd ffermwyr ledled Cymru’n elwa o’r buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd y drefn newydd yn cael gwared ar reolau cymhleth megis rheolau Awdurdodau Meddiannaeth Unigol (SOA) a’r cysylltiadau â’r System Olrhain Gwartheg (CTSlinks). Bydd hefyd yn cyflwyno rheol pellter 10 milltir. Bydd hyn yn rhoi cyfle i geidwaid da byw reoli parseli o dir a ddefnyddir ar gyfer cadw eu hanifeiliaid o fewn pellter y cytunwyd arno o’r prif ddaliad. Bydd modd gwneud hynny o dan un cyfeirnod CPH.
Mae’r CPH yn allweddol ar gyfer nodi ac olrhain lleoliad gwartheg, defaid, geifr a moch pe bai achosion o glefyd. Bellach, caiff parseli tir o fewn CPH eu mapio a bydd hynny’n sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) gofnod gwell o’r daliad. Bydd hyn yn helpu i atal clefydau ac yn cynorthwyo gyda mesurau i reoli achosion o glefyd, a hynny o fudd i geidwaid a’r diwydiant da byw yn ei gyfanrwydd.
Bydd y newidiadau yn cael eu cyflwyno yng Nghymru dros gyfnod o 2 flynedd. Mae’r dull rydym yn ei ddefnyddio yn canolbwyntio ar anghenion ceidwaid unigol, yn newid eu rhif CPH yn ôl y rheol pellter newydd ac yn rhoi’r opsiwn iddynt resymoli eu CPH.
Bydd swyddogion achos yn Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ar gael i roi arweiniad i gwsmeriaid a bydd y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm (FLS) yn rhoi cymorth ychwanegol lle bo angen. Hyd nes bod Taliadau Gwledig Cymru yn cysylltu â cheidwaid da byw, nid oes angen iddynt wneud dim byd heblaw am ymgyfarwyddo â’r newidiadau arfaethedig a sut y dylent ddefnyddio’r newidiadau hynny er mwyn iddynt gael yr effaith orau ar eu ffermydd.
Mae cael gwared ar CTSlinks yn flaenoriaeth felly o heddiw ymlaen, ni fydd Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) yn caniatáu ceisiadau newydd ar gyfer CTSlinks.
Bydd fy swyddogion, ynghyd ag asiantaethau partner megis APHA a BCMS yn parhau i gydweithio’n llawn gyda’r diwydiant, yn enwedig drwy’r Grŵp Cynghori ar Adnabod Da Byw (LIDAG) i sicrhau bod pawb yn cael y budd mwyaf o’r newidiadau cadarnhaol hyn.