Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar statws Prosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae'r prosiect hwn yn cynnig darn newydd o draffordd i'r de o Gasnewydd, ailddosbarthu'r M4 presennol yn yr ardal hon a mesurau ategol i hyrwyddo beicio, cerdded a mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r Ymchwiliad Cyhoeddus i'r Cynllun bellach wedi dod i ben.

Rydym wedi gwrando ar dystiolaeth fanwl o blaid ac yn erbyn y cynigion dros 83 o ddiwrnodau’r Ymchwiliad. Mae dau arolygwr annibynnol wedi craffu mewn ffordd agored a thrylwyr ar y cynllun ac ystyried a yw'n ddatrysiad cynaliadwy a hirdymor i'r problemau yn yr ardal hon ai peidio. Yn ogystal â chwmpas ac effeithiau'r Cynllun, aseswyd yr awgrymiadau eraill yn drylwyr gan gynnwys gwaith y 'llwybr glas' a awgrymwyd i'r ffyrdd presennol yng Nghasnewydd.

Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r Ymchwiliad i sicrhau y bydd adroddiad yr Arolygwyr yn cynnwys y dystiolaeth orau bosibl.

Ar ôl inni gael adroddiad yr Arolygwyr, rhaid i Weinidogion Cymru gwblhau'r broses statudol Bydd y camau  yma yn cael eu cyhoeddi, ynghyd ag adroddiad yr Arolygwyr i bawb eu darllen.

I gydnabod pwysigrwydd y mater hwn i Gymru gyfan, rydym yn ymrwymedig i ddadl o fewn amser y Llywodraeth yn y Senedd cyn bod Gweinidogion Cymru yn cytuno ar gontractau adeiladu.