Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diben y datganiad ysgrifenedig hwn yw hysbysu’r Aelodau ynghylch oedi i’r Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus mewn perthynas â Prosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd o ganlyniad uniongyrchol i gamau gan Lywodraeth y DU.

Mae’r Adran Drafnidiaeth, a hynny heb ymgynghori, wedi cyflwyno methodoleg ddiwygiedig ar gyfer eu gwaith rhagamcanu newydd mewn perthynas â chynnydd mewn traffig, a elwir yn TEMPRO 7. Er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau ynghylch Prosiect yr M4 yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf, fwyaf cadarn a’r wybodaeth fwyaf diweddar mae’n rhaid i mi yn awr ganiatáu digon o amser ar gyfer adolygu’r trefniadau adrodd ynghylch y cynigion a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016.

Gan ddibynnu ar ganlyniad fy adolygiad bydd yr ymchwiliad, yr oeddwn wedi bwriadu iddo gychwyn ar 1 Tachwedd, yn cychwyn erbyn 31 Mawrth y flwyddyn fan bellaf. Er mwyn sicrhau tegwch a thryloywder bydd y gwaith adrodd ar y mater hwn yn cael ei rannu gyda’r holl randdeiliaid cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.

Caiff y datganiad ysgrifenedig hwn ei gyhoeddi yn awr er mwyn hysbysu’r rhanddeiliaid cyn gynted â phosibl cyn y dyddiad y bwriedir cychwyn yr ymchwiliad. Bydd datganiad llafar yn cynnwys rhagor o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Byddwn yn disgwyl i Ymchwiliad barhau am oddeutu pum mis. Byddai’n ystyried pob agwedd ar Brosiect yr M4, ynghyd â’r holl ddewisiadau eraill posibl.

Rwy’n ymwybodol iawn o farn y bobl sy’n gwrthwynebu’r prosiect. Byddai’r Ymchwiliad yn ei gwneud hi’n bosibl i’r sylwadau hyn gael eu clywed. Rwyf hefyd yn awyddus i bwyso a mesur pob cyfle ar gyfer lleihau effeithiau negyddol ac elwa i’r eithaf ar fanteision trawsbynciol y buddsoddiad sylweddol hwn i Gymru.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi mynegi ei hawydd i weld y gwaith ar Brosiect yr M4 yn cychwyn cyn gynted â phosibl. O’r herwydd mae’n destun cryn siom i ni nad yw’r Adran Drafnidiaeth wedi trafod y diwygiadau hyn â ni cyn iddynt gael eu cyflwyno. Y diwygiadau hyn sy’n gyfrifol am yr oedi anffodus yma.

Er ein bod yn bwrw ymlaen â’n cynlluniau o ran Metro ar gyfer gogledd a de Cymru, mae angen sicrhau ateb i’r problemau hirdymor a pharhaus sy’n gysylltiedig â’r M4 o amgylch Casnewydd. Mae angen ateb a fydd yn creu system drafnidiaeth hirdymor, integredig a chynaliadwy.

Mae’r asesiadau sydd wedi’u cynnal hyd yma yn awgrymu mai Prosiect arfaethedig yr M4 yw’r unig ateb rhesymol, ond mae’n briodol fod y cynigion yn cael eu profi ar sail yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael. Y nod yw sicrhau ein bod yn gwneud y dewis gorau posibl ar gyfer pobl Cymru.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gyflawni ateb cynaliadwy a hirdymor i’r problemau traffig difrifol ar y rhan hon o’r M4.Yn amodol ar fy adolygiad ac os caiff canlyniad yr ymchwiliad ei gymeradwyo, gall prosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd gael ei gwblhau erbyn 2021.