Carwyn Jones, Prif Weinidog
Diben y datganiad hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y broses gwneud penderfyniadau ynglŷn â Phrosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
Gan gyfarfod 83 o weithiau dros gyfnod o flwyddyn a mwy, bu dau arolygydd annibynnol yn craffu ar filoedd lawer o ddarnau o dystiolaeth yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus mwyaf cynhwysfawr i'w gynnal yng Nghymru erioed mewn perthynas â chynllun ffordd.
Mae maint yr Ymchwiliad Cyhoeddus yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati o ddifrif i ystyried yr hyn a fyddai, heb os, yn fuddsoddiad sylweddol mewn seilwaith ar gyfer Cymru gyfan.
Mae dau gam posibl i'r broses hon; yn gyntaf, penderfynu a ddylid gwneud y Gorchmynion statudol ai peidio, sydd, i bob pwrpas, yn benderfyniad i roi cysyniad datblygu. Yr ail gam fydd gwneud penderfyniadau ynglŷn ag ymrwymo i gontract er mwyn adeiladu'r ffordd; sef, mewn gwirionedd, y penderfyniad terfynol ar fuddsoddiad er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu.
Er mwyn sicrhau tegwch gweithdrefnol i bawb a gyfrannodd at yr Ymchwiliad, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad ynglŷn â’r Gorchmynion statudol ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Ymchwiliad Cyhoeddus ac ar sail adroddiad yr arolygwyr, sy'n 500+ o dudalennau, a rhaid iddynt hefyd ystyried y fframwaith deddfwriaethol cyfan y mae'r penderfyniad yn rhan ohono. Bydd hyn, wrth reswm, yn cynnwys rhoi ystyriaeth ofalus i ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd Cymru.
Rhaid i'r penderfyniad ynglŷn â’r Gorchmynion fod yn seiliedig hefyd ar nifer o benderfyniadau cysylltiedig, gan gynnwys ystyried yr effeithiau posibl ar gynefinoedd a warchodir, rhandiroedd a thir comin. Unwaith eto, mae angen cyflwyno cyngor cynhwysfawr am bob un o'r rhain i'r Gweinidogion, ac mae angen i'r Gweinidogion eu hystyried cyn penderfynu a ddylid gwneud y Gorchmynion statudol ai peidio.
Oherwydd bod angen cynnal proses drylwyr a chadarn o ddiwydrwydd dyladwy ar gyfer pob un o'r pwyntiau hyn, nid oes penderfyniad wedi'i wneud am y Gorchmynion eto. Nid fi fydd yn gyfrifol bellach am wneud y penderfyniad hwnnw am y Gorchmynion. Bydd yn cael ei wneud ar ôl i’r Prif Weinidog newydd gael ei benodi, sef rywbryd yn y flwyddyn newydd yn ôl pob tebyg.
Efallai fod hynny'n peri rhwystredigaeth, ond ni ellir brysio wrth benderfynu ar y mater pwysig hwn. Hefyd, rhaid rhoi digon o amser i'r aelodau gael golwg ar adroddiad yr arolygydd ac ar y penderfyniad am y Gorchmynion cyn y ddadl yr ymrwymwyd i'w chynnal.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir bob amser, o gofio arwyddocâd Prosiect yr M4 i Gymru a'r teimladau cryf ar bob ochr, y bydd hi, unwaith y bydd y broses o benderfynu ar y Gorchmynion wedi'i chwblhau, yn cyflwyno dadl yn ystod ei hamser ei hun er mwyn i'r Cynulliad gael trafod y prosiect.
Er mwyn helpu'r aelodau wrth iddynt fynd ati i ystyried y materion sy'n gysylltiedig â'r prosiect cyn i Adroddiad yr Arolygwr gael ei gyhoeddi, rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i swyddogion ddarparu dolenni i Lyfrgell Dystiolaeth yr Ymchwiliad Cyhoeddus ar wefan Llywodraeth Cymru.