Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymhellach i’r datganiad dyddiedig 10 Awst 2020, rwy’n falch o roi gwybod i’r Senedd bod Comisiwn y Gyfraith bellach yn ymgynghori ar ei adolygiad o’r gyfraith sy’n llywodraethu gweithrediaeth y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru a’i gynigion ar gyfer diwygio. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cael gwared â’r tribiwnlysoedd sydd ar wahân ar hyn o bryd a chreu, yn eu lle, un tribiwnlys haen gyntaf unedig, wedi’i rannu’n siambrau i ymdrin â hawliadau tebyg.
  • Gwneud paneli Tribiwnlys Prisio Cymru ac apeliadau gwahardd o’r ysgol yn rhan o’r tribiwnlys haen gyntaf unedig newydd.
  • Diwygio Uned Tribiwnlysoedd Cymru (y rhan o Lywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn gweinyddu’r mwyafrif o dribiwnlysoedd datganoledig) i’w throi’n adran anweinidogol.
  • Safoni’r prosesau ar gyfer penodi a diswyddo aelodau o’r tribiwnlysoedd, a chyflwyno mwy o rôl i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru.
  • Safoni rheolau gweithdrefnol ar draws y tribiwnlysoedd, a chyflwyno Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd newydd i sicrhau bod y rheolau’n cael eu diweddaru fel y bo angen.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 16 Rhagfyr 2020 a 19 Mawrth 2021. Mae rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad, gan gynnwys y camau nesaf a sut i ymateb, ar gael ar wefan Comisiwn y Gyfraith drwy’r ddolen hon.

https://www.lawcom.gov.uk/project/devolved-tribunals-in-wales/#devolved-tribunals-in-wales