Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi cytundeb gyda British Telecommunications Plc (BT) i ddarparu prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf (BEGN), yn amodol ar gael cymeradwyaeth Ewrop ar Gymorth Gwladwriaethol a Phrosiectau Mawr.

Daw’r cytundeb heddiw yn dilyn proses gaffael agored a thryloyw a ddechreuodd ym mis Ionawr 2011. Dechreuodd y broses hon gyda diwrnod agored gyda 130 o gynrychiolwyr o’r diwydiant telathrebu ac roedd yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod band eang cyflym ar gael ledled Cymru. Ym mis Chwefror 2011, cyhoeddwyd hysbysiad contract yn Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan gwmnïau ledled Ewrop.

Cafodd Llywodraeth Cymru saith holiadur rhag-gymhwyso gan gwmnïau oedd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y broses. Nid oedd dau ymgeisydd yn cyrraedd y trothwy cymhwyso, ac ym mis Mehefin 2011 gwahoddwyd pum ymgeisydd i gymryd rhan ymhellach:

  • Consortiwm o dan arweiniad Balfour Beatty, gydag Alcatel-Lucent a Cable & Wireless;
  • British Telecommunications;
  • Geo Networks; 
  • Fujitsu; 
  • Thales.

Defnyddiodd Llywodraeth Cymru broses deialog gystadleuol i ddatblygu a mireinio’r cynigion cychwynnol a gafwyd gan bob un o’r ymgeiswyr, a ddatblygodd eu cynigion i wahanol gamau. Gadawodd Thales y broses ym mis Gorffennaf 2011, Geo Networks ym mis Medi 2011, consortiwm Balfour Beatty ym mis Rhagfyr 2011 a Fujitsu ym mis Ionawr 2012, oedd yn golygu mai dim ond BT oedd ar ôl yn y gystadleuaeth.

Bydd y bartneriaeth rydyn ni wedi cytuno arni gyda BT yn cynnig manteision band eang ffibr i fwyafrif helaeth yr ardaloedd hynny nad ydynt yn rhan o gynlluniau buddsoddi masnachol y sector preifat. Dyma’r bartneriaeth fwyaf o’i math yn y DU ac mae’n dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod trigolion a busnesau ledled Cymru yn gallu cael band eang cyflym.

Bydd y prosiect, ynghyd â buddsoddiad cyffredinol BT yng Nghymru, yn buddsoddi £425m i ehangu band eang cyflym ledled Cymru. Mae hyn wedi digwydd drwy fuddsoddiad o £205m gan y sector cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys £89.5m gan Gronfeydd Strwythurol Ewrop (ERDF), £56.9m gan Lywodraeth y DU a £58.6m gan Lywodraeth Cymru. Drwy’r prosiect hwn mae buddsoddiad penodedig BT ym mand eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru yn codi i £220m. Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnig gwerth sylweddol am arian, gyda mwy na £6 am bob £1 a fuddsoddir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu band eang cyflym ledled Cymru. Bwriedir i’r cytundeb gyda BT sicrhau, o’i gyfuno â buddsoddiadau masnachol arfaethedig, y bydd gan 96 y cant o gartrefi yng Nghymru fynediad i fand eang cyflym o safon fyd eang erbyn diwedd 2015. Mewn termau real, mae hyn yn cyfateb i dros 1.3 miliwn eiddo.

Mae’r brif dechnoleg a gaiff ei defnyddio, sef Ffibr i’r Cabinet, yn gallu cynnig cyflymder lawrlwytho o hyd at 80Mbps* a chyflymder lanlwytho o hyd at 20Mbps. Mae hyn yn cymharu â chyflymder lawrlwytho ar gyfartaledd yng Nghymru o oddeutu 5-6Mbps ar hyn o bryd, felly byddai hyn yn welliant sylweddol. Mae’r cytundeb hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i BT ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cyflym iawn o hyd at 330Mbps1 mewn rhai ardaloedd drwy ddefnyddio technoleg Ffibr i’r Eiddo. Byddai hyn hefyd ar gael ar alw drwy’r ôl-troed ffibr cyfan pe bai busnesau yng Nghymru am gael gwasanaeth cyflymach fyth.

Bydd BT yn cynnig platfform o fynediad ar raddfa eang i’w ystod o wasanaethau band eang y genhedlaeth nesaf. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw ddarparwr gwasanaeth manwerthu sydd am ddarparu gwasanaeth i gartrefi a busnesau ledled Cymru wneud hynny drwy system niwtral cludydd agored BT. Bydd hyn yn rhoi dewis i ddarparwyr gwasanaeth manwerthu ac yn bwysig bydd yn golygu na fydd prisiau’r gwasanaethau hynny yn wahanol mewn unrhyw ran o Gymru i unrhyw ran arall yn y DU.

Rydyn ni wedi cytuno gyda BT y dylai’r rhwydwaith gael ei gyflwyno mewn ffordd deg a chyfartal ac y dylid cysylltu ardaloedd anodd eu cyrraedd ar yr un pryd ag ardaloedd haws eu cyrraedd. Mae union fanylion y gwaith cyflwyno yn cael eu hystyried o hyd, ond bydd yr Ardaloedd Menter ymysg y cyntaf i elwa oherwydd eu pwysigrwydd economaidd. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau’n deall na fydd modd cysylltu pob eiddo yng Nghymru ar yr un pryd. Mae hwn yn fuddsoddiad seilwaith mawr a fydd yn cymryd tair blynedd i’w gwblhau, ond byddwn yn sicrhau bod gwasgariad da yn ein cymunedau gwledig, yn ogystal â’n cymunedau trefol. Lle bo’n bosibl, byddwn yn hyblyg i sicrhau ein bod yn bodloni unrhyw flaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg, ond mae’n rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar y targed i gwblhau’r prosiect erbyn 2015.

Fel Llywodraeth Cymru, rydyn ni hefyd am i’r prosiect hwn ddangos ein hymrwymiad cadarn i swyddi, hyfforddiant a rhoi cyfleoedd i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae’n bleser gennyf felly gyhoeddi, o ganlyniad uniongyrchol i’r cytundeb hwn, y bydd BT yn creu 50 o swyddi medrus newydd, 100 o brentisiaethau newydd ac yn rhoi profiad gwaith i 900 o bobl ifanc yng Nghymru, yn ogystal â diogelu dros 320 o swyddi yn ei fusnes. Mae BT hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru drwy’n Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr i sicrhau cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi i fusnesau bach a chanolig Cymru.

Mae’r cytundeb heddiw yn rhagori ar darged Llywodraeth y DU i ddarparu band eang cyflymach i 90 y cant o boblogaeth y DU. Bydd y prosiect yn trawsnewid y sefyllfa band eang yng Nghymru ac yn galluogi busnesau lleol i fod yn fusnesau byd-eang. Bydd yn sicrhau bod cwmnïau yn aros yng Nghymru a hefyd yn denu ystod fwy amrywiol o gwmnïau twf a gwerth uchel ym mhob sector allweddol o dwristiaeth i weithgynhyrchu uwch. Rydyn ni’n amcangyfrif y gellid creu hyd at 2,500 o swyddi amser llawn ychwanegol yn economi Cymru maes o law. Mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf ar effaith economaidd prosiectau band eang cyflym iawn ym mhedwar ban byd, ynghyd â’r dadansoddiad cost a budd ar effaith prosiect band eang y genhedlaeth nesaf.

Mae hyd at bedwar y cant o ardaloedd yng Nghymru yn anodd iawn eu cyrraedd o hyd ac nid oes disgwyl i’r prosiect allu’u gwasanaethu’n uniongyrchol. Bydd cynllunio manylach yn ein helpu i adnabod yr ardaloedd hynny, ond rwyf eisoes wedi gofyn i’m swyddogion ddechrau gweithio i ystyried opsiynau ar gyfer darparu band eang cyflym i’r cartrefi a’r busnesau hynny nad yw’r prosiect hwn yn delio â nhw. Yn y cyfamser, bydd y Cynllun Cymorth Band Eang yn parhau i weithredu ledled Cymru.

Mae y buddsoddiad mawr hwn sy’n cael ei gyhoeddi yn trawsnewid ein gwlad, yn trawsnewid y sefyllfa band eang yng Nghymru ac yn rhoi hwb i economi Cymru. Mae’r gwaith manwl i roi’r prosiect seilwaith mawr hwn ar waith eisoes wedi dechrau ac rydyn ni’n disgwyl y bydd y gwasanaeth ar gael i’r eiddo cyntaf yng ngwanwyn 2013.

Rwy’n bwriadu rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau yn yr hydref wrth i ni gwblhau’r cynlluniau manwl a gweithio tuag at gyrraedd cerrig milltir allweddol y prosiect.

* Mae 80Mbps a 330Mbps yn dibynnu ar y gwasanaethau a ddarperir gan ISPs a seilwaith y rhwydwaith