Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gallaf gadarnhau fod y broses i recriwtio Cadeirydd parhaol ar gyfer Bwrdd Cwmni Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau.

Fel y dywed Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni a’r Cytundeb Rheoli sy’n rheoli’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, mae Gweinidogion Cymru’n cadw’r hawl i benodi neu ddiswyddo cyfarwyddwyr Bwrdd Cwmni Trafnidiaeth Cymru.

O gofio proffil uchel a disgwyliadau’r rôl, rwy’n teimlo y dylai’r broses recriwtio ddilyn y Cod Llywodraethu Penodiadau Cyhoeddus.

Ceir cyfle yn y fan hon i fanteisio ar lwyddiant y broses gaffael a ddefnyddiwyd i benodi Partner Gweithredu a Darparu gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau er mwyn denu ymgeiswyr o’r ansawdd uchaf i ymgeisio am swydd y Cadeirydd Parhaol.  Rydyn ni’n chwilio am arweinydd eithriadol i oruchwylio’r gwaith o drawsnewid ein rhwydweithiau trafnidiaeth ond gan sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru’n cadw at ei egwyddorion dros bobl, dros leoedd a thros Gymru.

Rydyn ni felly’n chwilio am unigolion sydd â phrofiad o roi arweiniad strategol ar lefel uchaf llywodraeth, academia neu fyd busnes yn sectorau seilwaith economaidd (fel ynni, trafnidiaeth, cyfathrebu digidol) neu faes cysylltiedig (fel economeg, cynllunio, cyllido prosiectau/seilwaith, adwerthu, peirianneg, technoleg neu arloesi).

Mae Panel Cynghori hynod brofiadol wedi’i benodi i helpu’r broses ddewis a bydd y canlynol yn aelodau ohono: Nicola Shaw CBE, Cyfarwyddwr Gweithredol yn y Grid Cenedlaethol, David Jones OBE, Prif Weithredwr Coleg Cambria ac Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, Geraint Davies CBE, Cyfarwyddwr Anweithredol Maes Awyr Caerdydd a Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd Llywodraeth Cymru.
Caiff Cadeirydd parhaol Bwrdd Cwmni Trafnidiaeth Cymru ei benodi pan ddaw tymor y Cadeirydd Interim i ben ar 07 Ionawr 2019.  Byddaf yn cysylltu eto ag Aelodau pan fydd ymgeisydd llwyddiannus wedi’i ddewis.