Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r trefniadau ar gyfer adolygu rhanbarthau talu Cynllun y Taliad Sylfaenol. Cyflwynir Proses Adolygu Technegol a fydd yn dechrau pan fydd Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn ysgrifennu at hawlwyr taliadau Colofn 1 yn eu hysbysu o’u rhanbarth talu amodol. Cyn hynny, nodir y diffiniadau o ranbarthau talu Cymru mewn Offeryn Statudol.

Fis Ionawr, cyhoeddais y byddai trefniadau talu newydd Colofn 1 y PAC - Cynllun y Taliad Sylfaenol - yn seiliedig ar ddosbarthu tir ffermydd Cymru yn dri rhanbarth: Rhostir, Ardal dan Anfantais Fawr a rhanbarth arall sy’n cyfuno Ardal dan Anfantais a Llawr Gwlad. Y bwriad oedd cydnabod gwahanol ansawdd tir a sefydlu system dalu ranbarthol, wahaniaethol. System ranbarthol fel hon yw’r dewis polisi gorau sy’n amharu leiaf ar daliadau’r hawlwyr cyfredol; a dyna’r nod yr wyf i a’r undebau a rhanddeiliaid eraill wedi cytuno arno ers tro byd, sydd o bwysigrwydd hanfodol o ran diogelu sefydlogrwydd a lles diwydiant ffermio Cymru wrth drosglwyddo’n ddiogel i system daliadau seiliedig ar ardaloedd erbyn 2019.

Ers imi ymgynghori’r haf diwethaf ynghylch sefydlu rhanbarth rhostir, gofynnwyd cwestiynau am yr angen i gael rhyw ddull ar gyfer tynnu tir o’r rhanbarth os yw wedi’i wella’n amaethyddol. Llwyddwyd i gyflawni hyn i raddau helaeth drwy gyfyngu’r dynodiad ‘rhostir’ i dir sydd 400 metr neu’n uwch. Ond erys ardal fach o dir sydd wedi’i wella ac rwyf wedi bod yn ystyried y ffordd orau o ymdrin â’r tir hwnnw. Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi cael enghreifftiau da o dir lle ceir tystiolaeth glir ei fod wedi’i wella’n amaethyddol. Rwyf am fynd i’r afael â sefyllfaoedd o’r fath.

Dyna yw bwriad y Broses Adolygu Technegol  rwy’n ei chyhoeddi heddiw. Bydd gan yr hawlwyr 30 diwrnod i ymateb ar ôl cael gwybod pa ranbarth talu maen nhw ynddo. Wrth ymateb, rhaid iddynt gyflwyno’u hachos gan ddatgan yn wrthrychol pam y dylai’r tir gael ei roi mewn rhanbarth gwahanol a rhaid rhoi tystiolaeth megis ffotograffau i gefnogi’r achos. Rwy’n gobeithio y bydd yn bosibl datrys y rhan fwyaf o achosion ar y cam hwnnw, ond os penderfynir bod y tir i aros yn y rhanbarth gwreiddiol byddai gan yr hawliwr 60 diwrnod arall i gomisiynu a darparu adroddiad technegol ar ansawdd y tir dan sylw. Byddai’n rhaid cael person cymwys i baratoi’r adroddiad technegol a byddai’r adroddiad, ynghyd â’r dystiolaeth wreiddiol ac unrhyw dystiolaeth arall, yn cael eu hystyried gan banel o arbenigwyr annibynnol gan gynnwys cynrychiolydd o’r undebau ffermio a chyrff rhanddeiliaid, academydd a swyddog o Lywodraeth Cymru sydd â hyfforddiant technegol. Y Panel fyddai’n gwneud y penderfyniad terfynol. Rwy’n gobeithio, ac yn grediniol, y bydd y broses hon yn datrys pob cais rhesymol i newid rhanbarth.