Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Heddiw, ar y cyd â Llywodraeth y DU, rydym yn cyhoeddi prosbectws ar gyfer y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru.
Yn dilyn trafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth y DU, rydym wedi cytuno ar ddull o gyflwyno Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru sy’n adlewyrchu ein blaenoriaethau a'n gwerthoedd. Mae hyn wedi dilyn trafodaethau hir a manwl, sy’n seiliedig ar awydd gwirioneddol gan bob plaid i sicrhau canlyniad derbyniol. Bydd y prosbectws yn lansio'r gystadleuaeth y gall safleoedd posib gynnig am fuddsoddiad drwyddi ac mae'n gosod y paramedrau y byddant yn cael eu hasesu yn eu herbyn.
Cytunodd Gweinidogion Cymru i gefnogi polisïau Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn dilyn cytundeb Llywodraeth y DU y byddai'n ateb galwadau gan Lywodraeth Cymru i’r ddwy lywodraeth weithredu mewn 'partneriaeth gyfartal' i ddarparu porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Yn ogystal, cytunodd Gweinidogion y DU hefyd i ddarparu o leiaf £26 miliwn o gyllid cychwynnol nad yw’n ad-daladwy i unrhyw Borthladd Rhydd sy’n cael ei sefydlu yng Nghymru, sy'n gyson â’r cytundebau a gynigir i Borthladdoedd Rhydd yn Lloegr.
Bydd Porthladd Rhydd yng Nghymru yn barth arbennig sydd â manteision o ran gweithdrefnau tollau symlach, rhyddhad ar dollau tramor, budd-daliadau treth, a hyblygrwydd datblygu.
Mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi cydweithio i ddylunio model Porthladdoedd Rhydd a fydd yn cyflawni tri phrif amcan y mae'n rhaid i ymgeiswyr eu cyflawni:
- Hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd;
- Sefydlu’r Porthladd Rhydd fel hyb cenedlaethol ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang ar draws yr economi;
- Meithrin amgylchedd arloesol.
Bydd angen i Borthladd Rhydd yng Nghymru weithredu mewn modd sy'n cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru ar waith teg a phartneriaeth gymdeithasol, lle mae gweithwyr yn cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli, ac yn gallu symud ymlaen mewn amgylchedd gweithio diogel, iach a chynhwysol, lle mae eu hawliau fel gweithwyr yn cael eu parchu.
O ganlyniad, mae’r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn cynnwys polisïau a luniwyd yng Nghymru, fel cynnwys Contract Economaidd Llywodraeth Cymru, ymwneud Undebau Llafur â strwythurau llywodraethu Porthladdoedd Rhydd, pwyslais ar y cyflog byw gwirioneddol a chodi terfyn isaf cyflogau, a phennu disgwyliadau ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.
Bydd angen i Borthladd Rhydd yng Nghymru weithredu o fewn fframwaith deddfwriaethol Cymru ar gynaliadwyedd a lles – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - a'n hymrwymiad i sero net.
Bydd y blaenoriaethau hyn yn ystyriaeth flaenllaw wrth asesu ceisiadau ac rwy'n annog partneriaid i ganolbwyntio ar sut y bydd eu gweledigaeth yn cefnogi gweithgarwch arloesol uchel ei werth sy'n cefnogi swyddi da a thrawsnewid cyfiawn i sero net.
Mae'r broses ar gyfer ceisiadau yn agor heddiw 1 Medi. Bydd gan ymgeiswyr 12 wythnos i gwblhau a chyflwyno eu ceisiadau. Rhaid eu cyflwyno erbyn 6pm ar 24 Tachwedd.
Bydd y ddwy lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i gyd-ddylunio'r broses ar gyfer dewis safleoedd. Bydd gan y ddwy lywodraeth lais cyfartal ym mhob penderfyniad gweithredu, gan gynnwys y penderfyniad terfynol ar ddewis safleoedd.
Bydd y cais llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi ddechrau gwanwyn 2023, gyda'r Porthladd Rhydd yn cael ei sefydlu erbyn haf 2023.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybod i'r aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.