Neidio i'r prif gynnwy

Ieuan Wyn Jones, Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Ym mis Hydref 2009 cyhoeddais y byddwn yn rhoi adolygiad sylfaenol ar waith o’n dull gweithredu mewn perthynas â datblygu economaidd.  Mae’r datganiad hwn yn rhoi canlyniad yr adolygiad hwnnw.   Dros y deuddeng mis diwethaf buom yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ddatblygu polisi newydd. Yn bwysig iawn, ni wnaethom ymgymryd â’r gwaith hwn ar ein pen ein hunain.  Dylanwadwyd yn fawr ar Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd gan fewnbwn allanol sylweddol. Penllanw'r gwaith hwn oedd y ddogfen bolisi Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd a lansiwyd gennym ym mis Gorffennaf 2010.  Mae’n llwyddiant pwysig i Lywodraeth Cynulliad Cymru o ran polisi a darparu.  Yn sail i’r polisi y mae dwy egwyddor bwysig: yr angen i gael y Llywodraeth gyfan i weithredu mewn perthynas â datblygu economaidd a phwysigrwydd cael rôl glir i Lywodraeth y Cynulliad lle defnyddir dull mwy strategol a lle rhoddir mwy o bwys ar alluogi gan ganolbwyntio ar gefnogi amgylchedd ar gyfer twf sydd o fudd i bob cwmni. Mae’r ddwy egwyddor hyn ar waith drwy ein pum blaenoriaeth.

 

Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar sicrhau mai Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd fydd ein prif ddull ar gyfer darparu yn y maes datblygu economaidd. Dangosir hyn yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd a’r Fframwaith ar gyfer Mesur Llwyddiant yr wyf yn ei gyhoeddi. Cyfryngau yw'r dogfennau ategol hyn ar gyfer mesur ein hymrwymiad i Adnewyddu'r Economi. Mae un yn dangos y gweithgarwch sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, tra mae’r llall yn ymwneud â deall cyd-destun ac effeithiolrwydd ei chefnogaeth. Gyda’i gilydd, mae’r dogfennau hyn yn rhoi darlun cynhwysfawr o’r ffordd y mae datblygu economaidd yn cael ei gyflwyno bellach yng Nghymru. Mae rhai o'n llwyddiannau hyd yma yn cael eu disgrifio yma.

 

Buddsoddi mewn Seilwaith Cynaliadwy o Ansawdd

Dechreusom gaffael Band Eang y Genhedlaeth Nesaf ym mis Chwefror.  Roeddem wedi addo defnyddio ein hasedau presennol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Band Eang y Genhedlaeth Nesaf.  Dechreuodd rhaglen waith marchnata a gwerthu fesul cam portffolio eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Chwefror. Rydym wedi buddsoddi yn y prosiect Cydgasglu Galw'r Sector Cyhoeddus am Fand Eang sy’n rhedeg tan 2014.

 

Rydym wedi parhau i redeg y rhaglen arbed lwyddiannus iawn. 

Er mwyn gallu cyflwyno’r rhaglenni hyn yn fwy effeithiol, mae Grŵp Seilwaith newydd wedi'i sefydlu.  Mae bodolaeth y Grŵp newydd eisoes wedi arwain at gyflawni blaenoriaethau’n fwy effeithiol, gweithredu cyflymach mewn perthynas â meysydd sydd wedi profi’n anodd yn flaenorol, er enghraifft tir yn cael ei ddarparu ar gyfer tai cymdeithasol. 

 

Gwneud Cymru’n lle mwy deniadol i wneud busnes.

Rydym wedi cychwyn y rhaglen ddwy flynedd ar gyfer gweithredu rhaglen o welliannau i’r broses gynllunio. Bwriedir cynnal nifer o Gymorthfeydd Cynghori ar Gynllunio peilot ar gyfer busnesau bach ledled Cymru yn ystod y Gwanwyn eleni.

 

Daeth cynllun grantiau peilot i gynorthwyo Awdurdodau Lleol i gaffael yr adnoddau a'r sgiliau i ddelio â cheisiadau cymhleth yn weithredol ym mis Medi 2010. Mae’r prosiect ymchwil “Prosiect Gwerthuso a Chwmpasu Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy” wedi cael ei gomisiynu.  Mae’r gwaith cwmpasu ar gyfer y newidiadau cyntaf i’r Rheoliadau Adeiladu wedi cael ei gwblhau. Rydym hefyd yng nghamau olaf datblygu un Wefan Gaffael Genedlaethol.  Bydd y safle gwell yn darparu cyfleusterau chwilio mwy manwl a theilwredig i fusnesau, a fydd yn cynnig swyddogaethau chwilio a chadw mwy soffistigedig i fusnesau bach a chanolig ar gyfer dod o hyd i gyfleoedd yn y sector cyhoeddus sy'n briodol i’w busnesau.

 

Ym mis Ionawr, cafodd gwasanaeth ar-lein newydd peilot (am 6 mis) ei lansio a fydd yn galluogi rheolwyr llinell i gael gafael ar wybodaeth a chyngor i helpu i gefnogi pobl yn y gwaith sydd â phroblemau iechyd.

 

Ehangu a Dyfnhau’r Sylfaen Sgiliau

Rydym wedi cysoni Rhaglen Datblygu'r Gweithlu â blaenoriaethau Adnewyddu'r Economi a bellach rydym yn rhoi rhagor o ffocws ar greu swyddi wrth bennu’r lefel fuddsoddi gyda busnesau. Bydd cyflogwyr mewn sectorau allweddol a chwmnïau Angor yn gallu cael gafael ar gefnogaeth bwrpasol a dewisol. Mae tri ar ddeg prosiect Cyngor Sgiliau Sector wedi cael eu cymeradwyo o dan Raglen Beilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector. 

 

Mae Rhaglen Adduned y Cyflogwr ar ei newydd wedd yn cael ei chefnogi gan £10m o gyllid ychwanegol drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop dros y pedair blynedd nesaf a bydd yn gymorth i sicrhau cynnydd dramatig mewn dysgu sgiliau sylfaenol yn y gweithle. Bydd pecyn cymorth arall gwerth £2.4m ar gyfer prosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn ariannu prosiectau a fydd yn ceisio mynd i’r afael â sgiliau cyflogadwyedd a bydd ganddynt ffocws cryf ar gefnogi'r rheini sydd mewn perygl o golli'u swydd neu gael eu hadleoli.

 

Mae trefniadau newydd sy’n unigryw i Gymru wedi cael eu cyflwyno i gefnogi myfyrwyr sy'n mynd i Brifysgol am y tro cyntaf o Gymru.  Mae’r pŵer i golegau Addysg Bellach wneud cais am Bwerau Dyfarnu Graddau Sylfaen wedi dod yn gyfraith ac mae Polisi Graddau Sylfaen wedi cael ei gyflwyno. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi llunio ei Gynllun Corfforaethol sy'n cyflawni llawer o'r cynigion yn Er Mwyn Ein Dyfodol, Strategaeth a Chynllun Addysg ar gyfer Cymru yn yr Unfed Ganrif ar Hugain.  Mae hwn yn cynnwys cyflwyno proses cynllunio rhanbarthol, a glasbrint ar gyfer ailffurfweddu’r sector gan sefydlu chwe phrifysgol gref yng Nghymru erbyn 2013.

 

Mae’r Polisi Gwyddoniaeth diwygiedig ar gyfer Cymru’n cael ei ddatblygu a disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn yr Hydref. Mae’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn cyfrannu at godi lefel sgiliau STEM yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau y byddai gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol ddwy ganolfan ychwanegol - Canolfan y Dechnoleg Amgen a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

 

Mae’r Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn disgrifio dull Llywodraeth y Cynulliad o weithredu er mwyn atal pobl ifanc rhag ymddieithrio o ddysgu a’u cefnogi i ymuno â’r farchnad waith, gan gynnwys cynlluniau peilot ar gyfer rhaglen Marchnad Lafur Drosiannol i bobl ifanc 16-17 oed a gwasanaeth paru â swyddi gwag.

 

Mae ein rhaglen Recriwtiaid Newydd yn cynnig cymhorthdal cyflog i gyflogwyr sy’n cymryd prentis 16-24 oed.  Hyd yma rydym wedi cymeradwyo 1001 o geisiadau ar gyfer y rhaglen. Rydym yn newid ffocws ein buddsoddiad mewn prentisiaethau oddi wrth y rheini sydd mewn gwaith i’r rheini sy’n dod i mewn i fyd gwaith ar ddechrau’u gyrfaoedd.  Yn ddibynnol ar yr adnoddau a fydd ar gael, bwriedir cyflwyno'r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau yn genedlaethol ym mis Ebrill eleni.  Mae'r Rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau yn llwybr hyblyg i bobl ifanc gael yr wybodaeth a'r sgiliau sylfaenol gofynnol ar gyfer cwblhau'r fframwaith prentisiaeth llawn yn llwyddiannus. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn chwe sector eleni, ac yn cynnig 2000 o lefydd.  O fis Awst eleni, y bwriad yw y bydd sectorau’n gweithredu mewn modd a fydd yn gydnaws â'r Rhaglen Adnewyddu'r Economi.

 

Annog Arloesi

Rydym wedi mireinio’r cyfleusterau a ddarparwn i fusnesau i gefnogi arloesi.  Bydd pedwar Technium yn cael eu cadw i gynorthwyo i ddeor busnesau a chychwyn busnesau. Ni fydd gweddill yr adeiladau’n rhan o’r rhwydwaith Technium o 31 Mawrth ymlaen ac mae opsiynau’n cael eu datblygu ar gyfer eu dyfodol. Mae hyd at £15m wedi’i glustnodi hefyd ar gyfer Prifysgol Abertawe dros 5 mlynedd, yn amodol ar werthusiad o achos busnes, i hybu datblygiad ei Champws Gwyddoniaeth ar Arloesi gwerth £350m ar Ffordd Fabian 

 

Mae cynnig cyllido newydd i gefnogi ymchwil a datblygu wedi cael ei ddatblygu ac ar gael i fusnesau.  Gall busnesau yn awr gael gafael ar gyllid a fydd yn ad-daladwy hyd at saith mlynedd ar ôl cwblhau cam terfynol yr ymchwil a datblygu.  Bydd y Rhaglen Arloesi ar gyfer Busnes yn parhau i feithrin gallu busnesau i arloesi a darparu cymorth ariannol drwy Dalebau Arloesi. Bellach ceir ffocws cryfach ar gymorth masnacheiddio i fusnesau. Rydym wedi diwygio’r rhaglen Academia4Business (A4B) i gyflawni yng nghyswllt y chwe phrif sector.  Bydd y Cynllun Arloesi’n pennu’r gwaith i’r dyfodol, a ragwelir ar gyfer yr Hydref eleni.

 

Targedu’r Cymorth yr Ydym yn ei Gynnig i Fusnesau

Mae'r gwaith o recriwtio arbenigwyr cydnabyddedig o'r sectorau i ffurfio'r Paneli Pector wedi'i gwblhau a chyfarfodydd wedi'u cynnal ym mis Mawrth.  Mae panel y Diwydiannau Creadigol ar y blaen ryw ychydig i'r pum sector arall ac wedi cynnal ei gyfarfod misol cyntaf ar 19 Hydref. Bydd cynlluniau ar gyfer pob sector yn cael eu datblygu gyda mewnbwn oddi wrth Baneli'r Sectorau er mwyn inni fanteisio i'r eithaf ar eu gwybodaeth a'u profiadau. I gefnogi’r newidiadau hyn, mae strwythur trefniadol newydd Adran yr Economi a Thrafnidiaeth wedi’i lenwi’n sylweddol erbyn hyn. 

 

Mae Cyngor Adnewyddu'r Economi yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn, gyda chymorth gweithgor. Rydym hefyd yn ddiweddar wedi cyhoeddi cynlluniau i ffurfio grŵp cynghori ar Fusnesau Bach a Chanolig. Hefyd, rydym wedi sefydlu perthynas weithio â chwmnïau angor a chwmnïau sy’n bwysig yn rhanbarthol. 

 

Daeth y trefniadau newydd ar gyfer cynnig cyllid busnes newydd Adran yr Economi a Thrafnidiaeth, ar sail model ad-daliadau, i rym ar 1 Medi.  Cafodd ceisiadau a oedd eisoes wedi’u derbyn ar gyfer y Gronfa Fuddsoddi Sengl erbyn 5 Gorffennaf eu hystyried yn unol â chanllawiau gwreiddiol y Gronfa Fuddsoddi Sengl, yn ogystal â’r ceisiadau a oedd wedi cael eu trafod yn sylweddol a dderbyniwyd erbyn 31 Awst.

 

Rydym wedi newid y defnydd o gronfeydd yr UE i gyfateb i’r dull Adnewyddu’r Economi o weithredu ac i gynyddu’r cyllid ar gyfer datblygiadau seilwaith.  Mae gweddill y prosiectau ERDF wedi’u hailgyflwyno ac yn cael eu gwerthuso yn unol â blaenoriaethau Adnewyddu’r Economi.  Mae cyllideb flaenorol y Gronfa Fuddsoddi Sengl wedi'i blaenoriaethu o’r newydd yn unol â’r chwe sector allweddol, ar sail dyraniadau cyllid ad-daladwy cyfartal.   Lle bo ymrwymiadau cyllido cyfredol i’w rheoli, mae’r rhain wedi’u dyrannu rhwng sectorau allweddol. Bydd fframwaith y Gronfa Blaenoriaethau Rhanbarthol ar gael o fis nesaf ymlaen.

 

Rydym wedi datblygu amrywiaeth o raglenni i gefnogi entrepreneuriaeth a mentergarwch. Lansiwyd Cynllun Gweithredu Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid 2011-2015 ac Ymgyrch Syniadau Mawr Cymru ar 15 Tachwedd, i gyd-fynd â diwrnod cyntaf Wythnos Entrepreneuriaeth Byd-eang. Mae hyrwyddwyr entrepreneuriaeth i’r dyfodol yn cael eu recriwtio ar hyn o bryd hefyd.

 

Ochr yn ochr â busnesau cynhenid, rydym yn mabwysiadu dull gweithredu newydd ar gyfer annog buddsoddiad o dramor. Mae swyddogaethau Busnes Rhyngwladol Cymru wedi cael eu newid yn unol â chyfeiriad polisi adnewyddu’r economi, gan ddod o dan strwythurau staffio newydd Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Nid yw brand a gwefan Busnes Rhyngwladol Cymru yn cael eu defnyddio bellach.  Rydym wedi cysoni ein hadolygiad o’n gwaith dramor â gwaith UKTI er mwyn cael y cyfleoedd gorau posibl ar gyfer unrhyw ddiwygiadau i'n gweithgareddau dramor.  Rhagwelir y bydd hyn wedi’i gwblhau yn ystod y Gwanwyn eleni.

 

Er mwyn gwneud hyn i gyd yn fwy hygyrch i fusnesau, rydym yn ei gwneud yn syml i fusnesau ddod o hyd i'r hyn sydd ar gael i'w cefnogi. Rydym wedi cadw’r llinell gymorth ar gyfer busnesau ar 03000 6 03000.  Mae'r wefan cymorth i fusnesau wedi cael ei diweddaru a’i hailfrandio fel busines.wales.gov.uk i adlewyrchu'r polisi newydd. Rydym hefyd wedi cynhyrchu llyfrynnau sy'n disgrifio beth mae'r cynnig newydd yn ei olygu i fusnesau yng Nghymru, gydag eraill ar y ffordd.