Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ein polisi profion yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol, ac mae ganddo ddau amcan: lleihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan COVID-19 a helpu’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i ddychwelyd at eu bywydau arferol o dydd i ddydd. Ar hyn o bryd, rydym yn profi pobl yn y meysdd blaenoriaeth canlynol:

  • Pobl a dderbynnir i'r ysbyty yr amheuir bod ganddynt y coronafeirws
  • Staff rheng flaen y GIG a gofal cymdeithasol
  • Preswylwyr cartrefi gofal
  • Gweithwyr hanfodol eraill

Ar hyn o bryd, nid yw'r dystiolaeth yn cefnogi profi pawb – mae'n awgrymu y dylid profi'r bobl hynny sydd â symptomau a sicrhau eu bod yn hunanynysu nes iddynt gael canlyniadau'r prawf.

Rydym yn dysgu mwy am y coronafeirws bob dydd – mae'r dystiolaeth yn newid ac yn datblygu drwy'r adeg ac rydym yn ei hadolygu'n rheolaidd.

Yn achos cartrefi gofal, lle mae nifer o bobl hŷn yn cyd-fyw yn agos, a lle mae gan sawl un ohonynt gyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes, os bydd canlyniadau'r profion yn bositif, dylem dybio – a chymryd camau gweithredu – fel petai pawb yn y cartref wedi cael canlyniad positif.

Wrth i fis Ebrill fynd heibio ac wrth i'r dystiolaeth barhau i ddatblygu, rydym wedi symud i sefyllfa lle rydym wedi bod yn profi holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal pan fyddant yn dangos symptomau'r coronafeirws. Rydym hefyd wedi profi pobl sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty i gartref gofal, yn cael eu derbyn i gartref gofal neu'n cael eu symud o un cartref i un arall.

Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf bellach yn dangos y dylem gynnal mwy o brofion mewn cartrefi gofal er mwyn rheoli nifer yr achosion. Mae hyn yn golygu y byddwn yn profi holl staff a phreswylwyr y cartrefi hyn pan gaiff achos o'r coronafeirws ei nodi.

Mae'r dystiolaeth hefyd yn awgrymu y ceir mwy o achosion o'r coronafeirws mewn cartrefi gofal mwy o faint, lle mae mwy o bobl yn cyd-fyw ac yn gweithio.

Felly, rydym yn cyflwyno system newydd tri cham o brofi ac ymateb cyflym er mwyn helpu i ddiogelu preswylwyr a staff cartrefi gofal. Mae hyn yn fwy na dibynnu ar brofion yn unig:

  • Ei gwneud hi'n haws i gynnal prawf – bydd yr wyth uned profion symudol newydd, a fydd ar gael o'r wythnos yn dechrau ar 3 Mai, ynghyd â phecynnau i gynnal profion yn y cartref, pan fyddant ar gael, wedi'u hanelu at gartrefi gofal er mwyn sicrhau bod profion ar gael yn hawdd iddynt.
     
  • Profion wedi'u targedu at ardaloedd lle ceir y nifer fwyaf o achosion – byddwn yn targedu profion ac yn defnyddio unedau symudol i brofi holl breswylwyr cartrefi gofal pan fydd achos yn codi (a chartrefi gofal cyfagos o bosibl) ac yn cynnal mwy o brofion yr wythnos ganlynol.

Bydd profion hefyd ar gael yn y cartrefi gofal mwyaf (lle ceir mwy na 50 o welyau) sy'n wynebu risg uwch o achosion oherwydd eu maint.

  • Cymorth amgylcheddol a chymorth hylendid – byddwn yn cyfuno profion â chymorth amgylcheddol ar gyfer cartrefi gofal pan gaiff ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion eu nodi. Bydd y drefn newydd hefyd yn cynnwys mwy o lanhau a mwy o fesurau rheoli heintau. Bydd canllawiau wedi'u diweddaru yn cael eu darparu i'r sector er mwyn cefnogi'r mesurau amgylcheddol hyn.

 

Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein capasiti i brofi mewn cartrefi gofal er mwyn cefnogi'r broses o roi diagnosis o'r coronafeirws a'i drin yn effeithiol.