Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
O 17 Medi 2018 ymlaen, rwy'n falch iawn o ddweud y bydd Sgrinio Serfigol Cymru yn darparu profion Feirws Papiloma Dynol (HPV) risg uchel fel y prif brawf sgrinio serfigol ar draws Cymru. Mae hwn yn brawf mwy sensitif ac fe fydd ei ddefnydd yn atal mwy o achosion o ganser na'r profion presennol. Mae hefyd yn brawf mwy penodol, sy'n golygu y bydd canlyniad negyddol yn rhoi mwy o sicrwydd. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno'r prawf hwn i bob un sy'n cael ei sgrinio.
Mae cyflwyno prawf sylfaenol am Feirws Papiloma Dynol risg uchel yng Nghymru yn ffordd gwbl newydd o sgrinio serfigol. Mae dros 100 o wahanol fathau o HPV, ond dim ond tua 13 sy'n gysylltiedig â chanser, a'r rhain sy'n cael eu galw'n fathau 'risg uchel'. Bydd y prawf newydd yn edrych am yr 13 math hysbys o HPV risg uchel, sy'n achosi 99.8% o'r achosion o ganser ceg y groth. Gall system imiwnedd menyw ymladd yn erbyn y rhan fwyaf o heintiau HPV yn naturiol, ond mae tua 1 o bob 10 haint yn anoddach cael gwared ohonynt. Yn achlysurol, gall HPV ddechrau niweidio celloedd ac achosi iddynt newid, a gall hynny ddatblygu i fod yn ganser os na chaiff ei drin.
Bydd y prawf newydd yn ein galluogi i symud o system sy'n dibynnu ar unigolyn i ganfod celloedd annormal at system sy'n canfod yr hyn sy'n achosi canser ceg y groth drwy ddod o hyd i'r haint drwy brofion moleciwlaidd awtomatig. Bydd y prawf yn arwain at brofion o ansawdd llawer gwell, a gwell profiad i'r cleifion. Bydd atgyfeiriadau mwy priodol hefyd at wasanaethau colposgopi, gan arwain at driniaeth gyflymach a throsglwyddo menywod yn ôl i’r rhaglen sgrinio arferol yn gyflymach.
Mae'r rhaglen frechu HPV bresennol yn gwarchod rhag dau fath o HPV risg uchel sy'n achosi dros 70% o'r achosion o ganser ceg y groth, ynghyd â rhai mathau eraill. Gan nad yw'r brechlyn HPV yn amddiffyn rhag pob math o HPV risg uchel, mae sgrinio serfigol rheolaidd yn parhau i fod yn bwysig. Mae'r cyfuniad hwn o imiwneiddio a sgrinio serfigol yn cynnig yr amddiffyniad gorau posib rhag canser ceg y groth, ac fe fyddwn yn annog pob menyw gymwys i dderbyn y cynnig o gael ei sgrinio pan fydd yn cael gwahoddiad.