Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg
Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn cydnabod yr effaith y mae’r Coronafeirws wedi'i chael ar ofal a dysgu wyneb yn wyneb a beth y mae hyn wedi'i olygu i deuluoedd ar draws Cymru, a hefyd yr effaith ar yr holl staff sy'n gweithio mewn lleoliadau sy'n darparu gofal ac addysg i'n plant a'n pobl ifanc yng Nghymru.

Rydym yn ddiolchgar i bawb yn y sectorau addysg a gofal plant a gwaith chwarae sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod mesurau atal heintiau ar waith. Rydym yn ddiolchgar i'r rhieni a'r gofalwyr y gofynnwyd iddynt ddod o hyd i wahanol ffyrdd o weithio, gofalu am eu plant a'u haddysgu drwy gydol y pandemig. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'n plant a'n pobl ifanc yng Nghymru am y ffordd y maent wedi addasu i oresgyn yr heriau y mae COVID-19 wedi'u cyflwyno.

Ar 14 Rhagfyr 2020 cyhoeddwyd ein cynlluniau ar gyfer profion mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr 2021 ynghyd â'n cynlluniau i ddarparu profion yn y dyfodol mewn lleoliadau addysg a gofal plant eraill hefyd gan gynnwys lleoliadau Dechrau'n Deg.

Ers y cyhoeddiad ym mis Rhagfyr, mae'r cyd-destun wedi newid. Yn benodol, rydym wedi dysgu am amrywiolion newydd ac mae'r cynnydd mewn heintiau yn y gymuned wedi arwain at nifer o newidiadau i’r ddarpariaeth gofal plant ac addysg.

Cawn ein harwain gan y cyngor gwyddonol diweddaraf ac felly roedd yn iawn i ni ystyried eto beth pa ddarpariaeth y dylid ei chynnig o ran profion ochr yn ochr â rheolaethau atal heintiau eraill er mwyn cefnogi lleoliadau gofal plant, ysgolion a cholegau i ddarparu dysgu a gofal wyneb yn wyneb yn ddiogel. 

Yn dilyn trafodaethau â Iechyd Cyhoeddus Cymru ac is-grŵp Plant ac Ysgolion y Gell Cyngor Technegol, rydym yn oedi’r profion cyswllt dyddiol mewn ysgolion a cholegau wrth i ni ddysgu mwy am yr amrywiolion newydd a’u heffaith ar drosglwyddo’r haint. Gallai profion cyswllt dyddiol leihau effaith COVID-19 ar ddysgu wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, byddant ond yn cael eu cyflwyno os yw'n ddiogel gwneud hynny. Byddwn yn parhau i weithio gydag Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y DU, Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n Grŵp Cynghori Technegol i ddeall beth mae'r data diweddaraf yn ei ddweud wrthym er mwyn i ni allu ystyried pryd y byddai profion cyswllt dyddiol yn briodol mewn ysgolion a lleoliadau yng Nghymru.

Yn y cyfamser, rydym yn cynnig Profion Llif Unffordd rheolaidd, ddwywaith yr wythnos, i'r holl staff ym mhob lleoliad gofal plant cofrestredig gan gynnwys lleoliadau Dechrau'n Deg, ysgolion a lleoliadau addysg bellach pan fyddwn yn dychwelyd ar ôl hanner tymor mis Chwefror. 

Gan wrando ar adborth, rydym wedi addasu ein dull gweithredu a bydd pob lleoliad yn cael cynnig Profion Llif Unffordd a gaiff eu casglu gan staff a'u defnyddio gartref er mwyn gallu nodi achosion asymptomatig positif yn rheolaidd ac yn gyflym a gofyn iddynt hunanynysu cyn dod i mewn i'r ysgol neu'r lleoliad. Bydd hyn, ynghyd â chadw pellter cymdeithasol a mesurau eraill a roddwyd ar waith gan ysgolion a lleoliadau, yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd oedolion yn lledaenu'r feirws yn ddiarwybod i eraill yn y lleoliad. Wrth i'n hysgolion a'n lleoliadau ailagor yn llawn ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb, mae hyn yn ffordd arall o leihau'r siawns o drosglwyddo’r haint mewn lleoliadau a'r tarfu ar wasanaethau addysg a gofal plant y mae hyn yn ei achosi.  

Mae cynnig profion fel hyn hefyd yn golygu y bydd gennym ddarlun llawer cliriach o'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yn ein hysgolion a'n lleoliadau ynghyd a gwybodaeth benodol am drosglwyddo asymptomatig ac effeithiolrwydd y mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith gan bob lleoliad.

Bydd pob lleoliad yn cael cynnig pecynnau profi am ddim, cymorth a chyflenwad bach o PPE ac rydym yn ymgysylltu â chynrychiolwyr o’r sectorau ar y gofynion logistaidd penodol.

Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi cymeradwyo'r defnydd hwn o brofion llif unffordd, ac er y cydnabyddir nad yw profion llif unffordd mor sensitif â phrofion Rt-PCR mewn labordai, mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos y gallwn fod yn hyderus iawn o hyd bod canlyniadau positif profion llif unffordd yn ganlyniadau positif cywir. Yn ogystal, byddwn yn gofyn i bawb sy'n profi'n bositif i drefnu prawf Rt-PCR dilynol. Mae'n hanfodol bod pawb yn deall nad yw canlyniad prawf negyddol yn golygu y gall unigolion lacio'r mesurau rheoli sydd ganddynt ar waith a'r rhagofalon y maent yn eu cymryd. Rhaid i ni barhau i gadw pellter cymdeithasol a chydymffurfio â'r mesurau a roddwyd ar waith waeth beth fo canlyniad y prawf.

Ni all profion ar eu pen eu hunain ddileu'r risgiau sy'n gysylltiedig â dal a throsglwyddo Covid-19. Mae profion yn helpu i liniaru'r risg ond mae angen iddynt ddigwydd ochr yn ochr â mesurau atal a rheoli heintiau eraill sy’n fwy effeithiol, gan gynnwys lleihau maint swigod lle’n bosibl, cadw pellter cymdeithasol priodol a mesurau hylendid dwylo da. Rydym yn ddiolchgar i bawb yn y sector sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y mesurau hyn ar waith.