Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Ar 13 Chwefror, mewn datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol, dywedais y buaswn yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gynnig treth newydd ar dir gwag fel dull o brofi pwerau Deddf Cymru 2014 i gynnig ac i gyflwyno trethi newydd yn y meysydd sydd wedi'u datganoli.
Gwnaed y penderfyniad i ddewis treth ar dir gwag yn dilyn ystyriaeth fanwl o bedwar syniad am drethi a oedd ar y rhestr fer - y dreth ar dir gwag; treth ar ddeunydd plastig untro; ardoll gofal cymdeithasol a threth ar dwristiaeth.
Rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Mel Stride AC heddiw, i hysbysu Llywodraeth y DU am fwriad Llywodraeth Cymru i ddechrau proses Deddf Cymru 2014 yn ffurfiol.
Dyma'r tro cyntaf i lywodraeth ddatganoledig yn y DU ddechrau ar math hyn broses i ystyried yr achos dros gyflwyno treth newydd mewn maes sydd wedi'i ddatganoli.
Ceir crynodeb o'r prif gamau ym mhroses Deddf Cymru yma:
http://gov.wales/docs/caecd/publications/180213-developing-infographic-cy.pdf
Byddaf yn rhoi diweddariadau i'r Cynulliad Cenedlaethol wrth i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, buaswn yn hapus i wneud hynny.