Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae strategaeth brofi Llywodraeth Cymru yn amlinellu ein prif flaenoriaethau.

Un o’r blaenoriaethau hynny yw ‘profi i ddarganfod’: adnabod ac ynysu achosion o COVID-19 yn y gymuned i leihau trosglwyddiad yr haint, cefnogi’r broses olrhain cysylltiadau ac arafu neu atal lledaeniad y clefyd. Mae lleihau cyffredinrwydd yr haint yn y gymuned yn lleihau nifer yr heintiadau difrifol, yn diogelu unigolion agored i niwed, yn diogelu’r GIG, ac yn lleihau nifer y marwolaethau.

Hyd yma, rydym wedi annog pawb â symptomau COVID-19 i gael prawf. Fel rhan o’n gwaith parhaus o dan y cynllun Profi Olrhain Diogelu i ddarganfod ac atal trosglwyddiad, rydw i heddiw wedi cytuno i ehangu’r cynnig am brawf i gysylltiadau agos pobl sydd wedi cael canlyniad positif i brawf y coronafeirws. Bydd timau Profi Olrhain Diogelu yn gofyn i gysylltiadau agos wneud prawf wrth iddynt ddechrau ar eu cyfnod hunanynysu ac eto ar ddiwrnod 8.

Mae profi cysylltiadau asymptomatig yn gyfle pellach i nodi mwy o achosion cyfeirio a’u cysylltiadau agos a fyddai fel arall ddim yn hysbys i dimau Profi Olrhain Diogelu, gan helpu i dorri’r gadwyn drosglwyddo yn bellach.

Nid yw gwneud prawf yn golygu nad oes angen hunanynysu. Os ydych wedi’ch nodi fel cyswllt, bydd dal angen i chi ynysu am y 10 diwrnod llawn hyd yn oed os bydd canlyniad y prawf yn negatif. Y rheswm am hyn yw oherwydd y gall gymryd hyd at 10 diwrnod neu fwy i’r symptomau ddatblygu, neu i’r feirws ymddangos yn eich system.