Vaughan Gething MS, Minister for Health and Social Services
Ar 3 Mehefin 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai ysgolion yn agor ar raddfa gyfyngedig o 29fed Mehefin, er mwyn i bob disgybl gael y cyfle i 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi'.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’r camau y dylid eu cymryd er mwyn cynnal pellter cymdeithasol a chydymffurfio â’r mesurau eraill sydd yn y canllawiau a gyhoeddwyd i gynorthwyo’r broses o agor ysgolion i fwy o ddisgyblion.
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch y plant a’r holl staff mewn ysgolion yn ystod y cyfnod hwn, felly rwyf am amlinellu’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd.
Achosion a chynnal profion antigenau yn gyflym os bydd achosion
Bydd system brofi yn cael ei darparu’n gyflym gan Raglen Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru i ymdrin ag achosion. Bydd Byrddau Iechyd Lleol yn hwyluso prawf antigenau ar gyfer pawb yn y ‘swigod’ ysgol/lleoliad (grwpiau bach cyson o ddim mwy nag 8) sydd wedi’u heffeithio gan yr achosion, a phawb yn yr ysgol/lleoliad os gwelir nad yw’r lleoliad wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion a/neu mesurau Atal a Rheoli Haint.
Bydd modd rhoi dull cyflym ar waith i gyflenwi a samplu profion antigenau, a hynny mewn amryw o ffyrdd - er enghraifft trwy ddefnyddio unedau profi symudol, canolfannau profi ategol, a llwybrau gollwng a chasglu. Bydd yr holl randdeiliaid yn trafod ac yn cytuno ar y dull profi mwyaf priodol.
Gan adeiladu ar Gynllun Cymru ar gyfer Achosion o Glefydau (2020), mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu cyngor penodol ynghylch ymchwilio i unrhyw achosion o COVID-19 mewn lleoliadau addysgol, a'u rheoli. Mae'r cyngor yn amlinellu pa gamau y dylid eu cymryd i amddiffyn unigolion a chymunedau lle mae achosion yn digwydd, yn ogystal â lleihau lledaeniad yr haint.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd lleol a’r Cyfarwyddwyr Addysg i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyfathrebu’n glir a bod pawb yn deall eu swyddogaeth o ran sicrhau bod unrhyw achosion yn cael eu hadrodd yn gyflym fel y gall y timau Profi, Olrhain, Diogelu ddarparu’r ymateb cyflym disgwyliedig i ddiogelu plant a staff a lleihau unrhyw achosion pellach o’r haint.
Bydd Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru, mewn partneriaeth â’r Byrddau Iechyd Lleol, yn sicrhau bod profion ar gael yn gyflym i gefnogi unrhyw achosion, er enghraifft drwy ddefnyddio Unedau Profi Symudol.
Profion Gwrthgyrff
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal rhaglen o brofion gwrthgyrff ac yn cynnig y profion i o leiaf 10% o staff ysgolion sydd wedi gweithio mewn hybiau ysgol yn ystod y pandemig. Rydym yn disgwyl y bydd dros 9000 yn cael y prawf. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall serogyffredinolrwydd y feirws yn y cohort hwn.
Byddwn yn ailadrodd y profion gwrthgyrff ar ddiwedd y tymor gyda grŵp sampl ychwanegol sy’n cynnwys y gymuned ysgol ehangach. Bydd ailbrofi’r cohort gwreiddiol yn rhoi gwybodaeth inni am ba mor hir y bydd unigolion sydd wedi cael canlyniad positif yn flaenorol yn dal i gael canlyniad positif, a bydd yn rhoi gwybodaeth inni am y gyfradd serodrawsnewid mewn unigolion a oedd wedi cael canlyniad negatif yn flaenorol. Bydd yr ail o’r rhain yn rhoi amcan newydd inni o’r cyffredinolrwydd pwynt dros amser a gwybodaeth am y newidiadau mewn nifer achosion yn y cohort hwn dros amser.
Mae cynnig profion yn rhan o’n hymateb iechyd y cyhoedd a chadw plant a staff ysgolion yn saff. Fel yr wyf wedi’i nodi yn flaenorol, byddwn yn parhau i adolygu’r dystiolaeth gan ymateb a gweithredu yn unol â hyn.