Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wedi bod yn flaenoriaeth fawr yn ystod pandemig feirws COVID-19. Mewn ymateb i’r dystiolaeth a oedd yn dod i’r amlwg, gwnaethom ddiwygio ein polisi profi mewn cartrefi gofal ar 16 Mai gan estyn profion i bob aelod o staff a phob preswylydd, symptomatig neu asymptomatig, mewn cartrefi gofal. Roedd hyn ar ben y trefniadau cymorth a oedd eisoes yn bodoli:
- holl breswylwyr ac aelodau o staff cartrefi gofal sydd ag achosion presennol o COVID-19 ac unrhyw gartref sy’n cofnodi achosion newydd
- cartrefi gofal mwy sydd wedi’u cofrestru ar gyfer 50 neu ragor o welyau
- pawb sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty i fyw mewn cartrefi gofal ni waeth a gawsant eu derbyn i’r ysbyty gyda COVID-19 ai peidio
- pawb sy’n cael eu trosglwyddo rhwng cartrefi gofal ac ar gyfer derbyniadau newydd o’r gymuned
Mae’r polisi hwn wedi’i atgyfnerthu gan raglen brofi raddfa fawr sy’n cynnwys holl breswylwyr ac aelodau o staff cartrefi gofal yng Nghymru. Mae dros 1050 o gartrefi gofal cofrestredig ar gyfer oedolion yng Nghymru. Mae pob un o’n cartrefi gofal cofrestredig ar gyfer oedolion wedi cael cynnig profion ac mae’r gwaith profi bron wedi’i gwblhau. Rydym yn ymwybodol o 30 o gartrefi gofal lle mae’r gwaith profi yn dal i fynd rhagddo ac rydym yn gweithio’n agos gyda staff i gwblhau’r gwaith hwn cyn gynted â phosibl. Mae peth amharodrwydd wedi bod ymysg rhai cartrefi gofal i gymryd rhan yn y rhaglen brofi, yn enwedig pan nad oes achosion wedi bod yn y cartref. Rydym yn gweithio gyda Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau lleol, Arolygiaeth Gofal Cymru a Fforwm Gofal Cymru i sicrhau bod yr holl gartrefi sy’n weddill yn cael eu cefnogi a’u hannog i dderbyn y profion neu’n cael cynnig dull profi amgen drwy’r pecyn profi gartref.
Hoffwn ddiolch i fyrddau iechyd a phawb sydd wedi helpu i weithredu’r rhaglen brofi torfol hon mor gyflym, ac i ddarparwyr, staff a phreswylwyr cartrefi gofal am gymryd rhan yn y broses, gan ein galluogi i gwblhau’r dasg cyn gynted â phosibl.
Mae wedi bod yn dasg aruthrol i roi’r rhaglen hon ar waith, gan gwblhau dros 51,000 o brofion erbyn 14 Mehefin – 22,887 o brofion ar breswylwyr cartrefi gofal a 28,781 o brofion ar staff. O’r nifer hwn, mae 5% o breswylwyr a 4% o staff wedi cael prawf positif ac rydym yn cymryd pob cam posibl i sicrhau bod mesurau rheoli haint cadarn ar waith ym mhob cartref gofal i’w diogelu rhag y risg o niwed yn y dyfodol.
Mae’n hanfodol ein bod ni’n wyliadwrus gan sicrhau bod cartrefi gofal yn cael eu diogelu rhag unrhyw achosion newydd, felly o 15 Mehefin bydd pob staff mewn cartrefi gofal yn cael cynnig prawf antigenau yn wythnosol am bedair wythnos. Bydd y staff yn cael prawf drwy’r porth ar-lein i gartrefi gofal. Byddwn yn parhau i adolygu ac addasu ein polisi ar brofion i gartrefi gofal wrth i ragor o dystiolaeth wyddonol ddod i’r amlwg.
Rydym eisiau rhoi sicrwydd i’r bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, a’u teuluoedd, mai nhw yw ein prif bryder. Rydym hefyd eisiau dychwelyd yn ddiogel i’r drefn o groesawu ymwelwyr a byddwn yn rhoi canllawiau i gartrefi gofal ynglŷn â sut y gellir cyflawni hyn i leihau’r risg o niwed. Felly, rydym wrthi’n datblygu cynllun i gartrefi gofal i’w cefnogi i ddarparu rhaglen adfer.