Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n ysgrifennu atoch i roi'r newyddion diweddaraf i aelodau ar broblemau tagfeydd a gafwyd ar gyffordd 28 yr M4 ar 12 Chwefror.

Cafodd ei gadarnhau i'r problemau godi oherwydd problem â'r feddalwedd ar gyfer  y goleuadau tarffig ar gyfnewidfa Basaleg. Mae'r feddalwedd fel arfer, yn ystod amseroedd tawel, yn segur am ychydig i glirio unrhyw ddata di-angen. Yna dylai ddychwelyd i'r system weithredu arferol. Fodd bynnag, y tro hwn, bu i'r system gloi tra'r oedd yn segur. Llwyddodd  Siemens i gywiro'r nam erbyn 1pm y diwrnod hwnnw ac mae'r mater wedi ei drosglwyddo i'r tîm peirianyddol i edrych ar y broblem. Yn y cyfamser, bydd Siemens yn parhau i fod ar gael ac yn barod i ymateb i unrhyw ddigwyddiadau pellach.

Roedd tîm y prosiect hefyd yn ymwybodol,  cyn y digwyddiad hwn, bod problem barhaus   o ran traffig yn ciwio tua'r de yn ystod yr amser brig ar yr A467 (Forge Road). Wedi agor y gylchfan newydd, cynhaliodd Costain arolwg cychwynnol o'r traffig ym mis Rhagfyr, 2018. Edrychwyd ar y canlyniadau a chyflwynwyd newidiadau bychain i amseru y goleuadau traffig. Yn anffodus, wnaeth hyn ddim datrys y mater, a bu i'r traffig barhau mewn ciw ar yr A467 tua'r de yn ystod oriau brig y bore.

Mae tîm y prosiect wedi edrych ar opsiynau i ddatrys i ciwio. O ganlyniad maent bellach yn datblygu pecyn ehangach o waith arolygu traffig er mwyn edrych ar y llif traffig cyn y gwaith adeiladu. Y bwriad yw cynnal yr arolygon hyn ddechrau Mawrth 2019, er mwyn cydymffurfio ag arferion gorau casglu data ar gyfer arolygon traffig.

Unwaith y caiff ei ddadansoddi, bydd data traffig yn golygu y bydd y cynllunwyr yn deall llif traffig, tagfeydd a symudiadau gyrwyr yn well i gynorthwyo gydag unrhyw newidiadau i'r signalau traffig ac/neu trefniadau o ran cynllun y ffordd.

Rydym yn ddiolchgar iawn o amynedd pobl wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.