Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
Ar 27 Mehefin cyhoeddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol adroddiad ar ei ymchwiliad i ffordd GIG Lloegr o ymdrin â gohebiaeth glinigol. Hoffwn egluro sut mae systemau Cymru'n gweithio’n wahanol. Gallaf gadarnhau’n benodol, yn wahanol i Loegr, nad oes gennym unrhyw gofnodion heb eu prosesu wedi'u storio.
Yn fras, roedd adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn edrych ar GIG Lloegr a Chydwasanaethau Busnes GIG Lloegr yn dilyn adolygiad o tua 700,000 o eitemau o ohebiaeth heb eu prosesu, yr ymddengys eu bod wedi’u pentyrru mewn stordy. Amlygwyd tua 1,800 o achosion o niwed posib i gleifion, lle ymddengys bod cofnodion neu ganlyniadau profion wedi'u trin yn anghywir ar y ffordd at glinigwyr. Mae GIG Lloegr yn parhau i ymchwilio i'r achosion lle gwelwyd niwed posibl, ac mae'n disgwyl cwblhau'r holl waith adolygu erbyn mis Rhagfyr 2017.
Mae'r sefyllfa yn Lloegr yn amlwg yn creu pryder i'r cleifion sydd o bosib wedi'u niweidio. O'r 700,000 darn o ohebiaeth heb eu prosesu, rydym yn deall bod 41 eitem yn ymwneud â Chymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Rwyf wedi gofyn i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gadarnhau faint yn union sy’n berthnasol i Gymru ar fyrder.
Hoffwn ddweud yn glir ein bod ni yma yng Nghymru'n gweithredu system wahanol i un Lloegr ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth am gleifion rhwng gwahanol rannau o'n gwasanaethau iechyd. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn gweithredu Gwasanaeth Cludwyr Iechyd ar ran byrddau iechyd Cymru. Mae’r gwasanaeth hwnnw’n didoli a dosbarthu miloedd o eitemau o bost bob blwyddyn. Nid yw model gweithredu Cymru'n caniatáu storio post ar ran y byrddau iechyd. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw eitemau o bost heb eu dosbarthu yn cael eu cadw yng Nghymru. Hefyd mae systemau digidol cryf yn cael eu gweithredu gan GIG Cymru gan gynnwys y gwasanaeth GP2GP, sydd yn y broses o gael ei gyflwyno. Mae'r gwasanaeth hwnnw'n golygu bod modd trosglwyddo cofnodion cleifion yn electronig rhwng meddygfeydd pan fydd cleifion yn symud o un practis i'r llall.
Pan fo cleifion yn symud o feddygfa yng Nghymru i un yn Lloegr, neu i’r gwrthwyneb, bydd angen cyfnewid cofnodion rhwng y ddwy wlad. Fel arfer, bydd tua 5,000 o gofnodion yn y broses o symud rhwng Cymru a Lloegr ar unrhyw adeg. Ond ers mis Ebrill 2016, pan gontractiwyd CAPITA gan GIG Lloegr i reoli'r gwaith o drosglwyddo cofnodion meddygol, mae nifer y cofnodion sydd yn y broses o symud wedi codi tua 7,000 i 12,000. Mae gennym systemau ar waith i ddiogelu cleifion. Lle bo angen cofnod ar frys, mae proses gadarn yn ei lle ar gyfer olrhain cofnodion cleifion gyda'r rhanbarth penodol yn Lloegr. Hefyd gall y practis meddyg teulu yng Nghymru gysylltu â'r practis meddyg teulu yn Lloegr y mae'r claf wedi'i adael, os oes angen trafodaeth glinigol. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn gweithio'n agos gyda CAPITA, sydd wedi datgan bod y 7,000 o gofnodion ychwanegol sy'n aros i gael eu trosglwyddo yn dal i fod mewn practisau meddygon teulu yn Lloegr neu wedi'u storio'n ddiogel ledled Lloegr.
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru mewn cysylltiad wythnosol gyda CAPITA, ac yn tynnu sylw at bryderon ynghylch oedi wrth drosglwyddo cofnodion. Mae CAPITA wedi’n sicrhau ei fod yn benderfynol o fynd i’r afael â’r mater cyn gynted â phosib. Bydd y Prif Swyddog Meddygol hefyd yn ysgrifennu at Fwrdd Trosolwg Trawsnewid Gwasanaeth Gofal Sylfaenol GIG Lloegr gan amlinellu pryderon ynghylch nifer y cofnodion sy’n dal i aros i gael eu trosglwyddo ar hyn o bryd, a’r angen i leihau’r nifer hwnnw ar fyrder.
Gallaf sicrhau Aelodau'r Cynulliad bod systemau Cymru'n gweithredu'n wahanol i'r hyn a adroddwyd yn Lloegr, ac nad oes unrhyw gofnodion papur yn cael eu storio’n gorfforol mewn stordai. Nid yw'r amgylchiadau sy'n achosi pryder yn Lloegr yn berthnasol i Gymru.