Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bob blwyddyn mae'n rhaid inni wneud penderfyniadau ar newidiadau i brisiau docynnau trên a reoleiddir yng Nghymru, gan gydbwyso'r angen i gadw’r cynnydd mewn costau mor isel â phosibl i deithwyr, gan sicrhau hefyd bod Trafnidiaeth Cymru yn gallu casglu digon o refeniw i dalu eu costau cynyddol a lleihau cymhorthdal.

Eleni rydym wedi cytuno i gynnydd cyffredinol mewn prisiau docynnau trên a reoleiddir o 4.6% gyda'r cynnydd yn dod i rym ar 2 Mawrth 2025. Mae hyn yn cyd-fynd â'r cynnydd a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer prisiau tocynnau a reolir gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno cynnydd gwahanol i bob cynnyrch a reoleiddir. Bydd prisiau tocynnau unffordd unrhyw adeg o'r dydd yn cynyddu 3%, bydd prisiau tocynnau tymor 7 diwrnod yn cynyddu 3.5% a bydd prisiau tocynnau dwyffordd unrhyw adeg o'r dydd a phrisiau tocynnau dwyffordd ar adegau tawel yn cynyddu 6%.

Rydym yn deall na fydd teithwyr yn croesawu hyn, ond rydym wedi ceisio cadw'r cynnydd mor isel â phosibl. Mae hefyd yn bwysig cydnabod nad yw'r mwyafrif cynyddol o deithwyr bellach yn defnyddio'r cynhyrchion hyn a reoleiddir. Y cynhyrchion hyn yw gweddillion y rheilffordd breifat a sefydlwyd i sicrhau na allai gweithredwyr preifat yrru cynnydd enfawr mewn prisiau tocynnau i sicrhau cymaint o elw â phosibl ar draul teithwyr y tu hwnt i reolaeth Llywodraethau. Gyda gwaith i ddiwygio’r rheilffyrdd yn mynd rhagddo, rwy’n gobeithio y bydd gwasanaethau rheilffordd yn dychwelyd i'r sector cyhoeddus a bydd yr angen am brisiau tocynnau trên a reoleiddir yn dod i ben, gyda gweithredwyr y sector cyhoeddus yn blaenoriaethu gwerth am arian i deithwyr.

Mae hyn eisoes yn wir yng Nghymru gyda Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno tocynnau Talu Wrth Fynd. Mae dros 150,000 o gwsmeriaid rheilffordd eisoes wedi elwa mewn dim ond tri mis ers lansio'r cynllun yn llawn ym mhob un o'r 95 o orsafoedd yn Ardal Metro De Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru yn hyderus y bydd teithwyr yn defnyddio'r dechnoleg newydd hon fwyfwy sy'n cynnig arbediad sylweddol o'i gymharu â'r tocynnau unffordd neu ddwyffordd unrhyw adeg a thocynnau tymor 7 diwrnod a reoleiddir. Ochr yn ochr â hyn mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynnig tocynnau Advance sy'n ymateb i'r galw yn yr un modd â chwmnïau awyrennau. Mae'r rhain bellach ar gael hyd at bum munud cyn gadael ac yn cynnig y gwerth gorau ar gyfer teithiau hirach ledled Cymru a'r Gororau.