Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ers iddi gael ei sefydlu drwy Siarter Frenhinol ym 1893, mae Prifysgol Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn narpariaeth addysg uwch yng Nghymru. Mae wedi cyfrannu'n sylweddol at fywyd academaidd a diwylliannol y genedl. Mae cyd-destun addysg uwch wedi newid yn sylweddol ers i'r Brifysgol gael ei sefydlu'n wreiddiol, a nawr yw'r amser i edrych tua’r dyfodol.
Rwyf eisoes wedi mynegi fy marn yn glir am weithgarwch Prifysgol Cymru dramor, ac mae hynny hefyd wedi bod yn destun cryn gyhoeddusrwydd. Yn ddiweddar iawn, mynegwyd pryderon am reolaeth Prifysgol Cymru, ei safonau academaidd a'r addysgu. Rwy'n falch bod y Brifysgol wedi gwneud cynnydd da o ran ei hymateb i'r anawsterau a nodwyd. Rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd wedi cydweithio'n agos â'r Brifysgol a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gytuno ar gynllun gweithredu, a'i fonitro, er mwyn mynd i'r afael â'r methiannau a nodwyd.
Rwy'n hynod ddiolchgar am frwdfrydedd ac ymrwymiad yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol, wrth ddod i delerau â'r materion sy'n wynebu'r sefydliad.
Yn adroddiad Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC), Future Structure of Universities in Wales (2011), argymhellwyd y dylid uno Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe ac, o bosibl, ond nid o reidrwydd, â Phrifysgol Cymru hefyd. Roedd ymateb ysgrifenedig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i'r adroddiad hwn yn pwysleisio unwaith yn rhagor ei bod wedi ymrwymo i’r uno ac i weddnewid Prifysgol Cymru. Rwyf eisoes wedi datgan fy mod yn derbyn cyngor CCAUC ac rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd gan y sefydliadau hyn er mwyn gweithio i wireddu argymhellion CCAUC i gryfhau'r modd y darperir addysg uwch yn y De-orllewin.
Ym mis Hydref 2011, cyhoeddodd yr Athro Hughes y byddai Prifysgol Cymru yn rhoi'r gorau i ddilysu cyrsiau gradd ym mhob sefydliad arall yn y DU a thramor o ddechrau blwyddyn academaidd 2012. Rwy'n cydnabod, er bod angen rheolaeth ofalus ar Brifysgol Cymru, bod agweddau da am y sefydliad sydd angen eu cadw. Mae fy swyddogion i wedi parhau â'r trafodaethau â Phrifysgol Cymru er mwyn sicrhau bod rhywfaint o'i gweithgareddau a'i hasedau yng Nghymru yn cael eu diogelu. Mae'r rhain yn cynnwys trafodaethau am ddyfodol Gregynog a'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd yr Athro Hughes ataf gan amlinellu safbwynt presennol Prifysgol Cymru ar y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud ar y materion hyn, gan gynnwys gwneud trefniadau ar gyfer y dyfodol ar gyfer ei hasedau a’i gweithgarwch dilysu. Mae copi o lythyr yr Athro Hughes ynghlwm wrth y datganiad hwn, gan fy mod o'r farn ei fod o fudd i'r cyhoedd allu gweld yr wybodaeth hon. Bydd yr Athro Hughes yn gwneud ei ddatganiad ei hun cyn hir, gan baratoi trywydd ar gyfer amrywiol weithgareddau Prifysgol Cymru sy'n dal i fod o bwys cenedlaethol, fel yr awgrymir yn y llythyr.
Fel pob sefydliad addysg uwch arall yng Nghymru, rhaid i Brifysgol Cymru geisio addasu i'r heriau sy'n ei hwynebu yn yr unfed ganrif ar hugain. Rwyf i o'r farn bod y cynigion sydd wedi eu cyflwyno gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, os cânt eu gwireddu, yn cynnig cyfle iddi wneud hynny.