Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn cyhoeddi ymchwil gan Brifysgol Caeredin ar y ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc a addysgir y tu allan i'r ysgol, hoffwn roi diweddariad i’r Aelodau ar gefndir yr adroddiad, ei argymhellion a'r camau nesaf.

Penderfynais ohirio ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad hwn, tan inni dderbyn adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Bresenoldeb ac Ymddygiad, er mwyn imi allu ystyried y ddau adroddiad gyda'i gilydd wrth bennu’r cyfeiriad polisi ar gyfer y dyfodol.  

Comisiynwyd yr ymchwil gennym mewn ymateb i'r materion beirniadol a ddaeth i'r amlwg yn yr Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb (2008) a’r Adolygiad o Addysg Heblaw yn yr Ysgol (2011), yn ogystal ag adroddiadau gan Estyn a'r trydydd sector.

Rwy'n croesawu'r ymchwil hon sy'n ystyried y broses o wahardd disgyblion o ysgolion yng Nghymru ac sy'n edrych ar y ffordd y mae'r ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc heblaw yn yr ysgol, sydd hefyd yn cael ei alw yn EOTAS, yn cael ei chyflenwi, ei chynllunio a'i chomisiynu. Dyma'r gwerthusiad cynhwysfawr cyntaf  o’r ddarpariaeth EOTAS yng Nghymru a bydd fy ymateb i'r adroddiad yn dangos ein hymrwymiad parhaus i'r agenda hon.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y bydd deilliannau’r plant a addysgir y tu allan i'r ysgol yn gwella ac y bydd ganddynt y cyfle i wireddu eu gwir botensial. Byddwn yn gwneud hyn drwy weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn cyflawni'r deilliannau gorau posibl i'r plant a'r bobl ifanc hyn.  

Mae adroddiad Caeredin wedi nodi lle y mae modd gwella'r system. Mae'n darparu meincnod pwysig ar gyfer y ddarpariaeth EOTAS. Mae'r adroddiad yn cynnwys 22 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi derbyn 9 o’r argymhellion hynny; rydym wedi derbyn 9 ohonynt yn rhannol neu mewn egwyddor; ac rydym wedi gwrthod 4 ohonynt.  

Mae ein hymateb i'r adroddiad yn gyfle inni ymdrin â materion sy’n ymwneud â chyfathrebu a darparu canllawiau; casglu a monitro data; gweithio fel awdurdodau lleol a chonsortia; hyfforddiant; a'r hawl annibynnol i apelio.

Bydd fy swyddogion yn mynd ati’n syth i weithredu'r argymhellion. Wrth wneud hyn, byddant yn ystyried unrhyw gysylltiadau ag argymhellion perthnasol sy'n deillio o Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Ymddygiad a Phresenoldeb. Byddaf yn darparu diweddariad ar y cynnydd yn erbyn yr argymhellion hyn ymhen blwyddyn.