Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym Mwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ddydd Gwener 25 Hydref, fe wnes i gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £500,000 y flwyddyn o gyllid tuag at gost swydd Prif Swyddog Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol ac Uned Gyflawni i'w gefnogi.

Bydd hyn yn darparu adnodd penodedig i adnabod, rhannu a hyrwyddo dull cydgysylltiedig o weithio o ran mentrau digidol a’r ffordd y cânt eu rhoi ar waith mewn llywodraeth leol. Bydd hefyd yn gwireddu potensial technoleg ddigidol i arbed arian a darparu gwell gwasanaethau.

Bydd y Prif Swyddog Digidol yn arwain y gwaith trawsnewid digidol mewn llywodraeth leol, gan adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes ar y gweill, a’i ddatblygu. Bydd yn cefnogi llywodraeth leol i wella’r capasiti a’r gallu i ddatblygu technoleg arloesol a dulliau sy'n cael eu harwain gan ddata o ran darparu gwasanaeth a chysylltu â'r cyhoedd.

O'm safbwynt i, y sector fydd yn berchen ar y gwaith hwn ac yn ei arwain, gyda Llywodraeth Cymru yn falch o ddarparu cyllid i'w gefnogi. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fydd yn cynnal swydd y Prif Swyddog Digidol, a'r Grŵp Cynghori Digidol, sy'n cynnwys Aelodau CLlLC, Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru, SOCITM, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid eraill, yn ei oruchwylio.

Bydd y cyllid ar gael am gyfnod o dair blynedd i ddechrau i ganiatáu digon o amser i benodi'r Prif Swyddog Digidol ar gyfer Llywodraeth Leol, nodi’r blaenoriaethau, a gwneud cynnydd ystyrlon ar y rhain.

Mae'n hanfodol ein bod yn canfod unigolyn sydd â’r sgiliau, y rhinweddau, y cefndir a’r profiad cywir ar gyfer y swydd, ac mae gwaith eisoes wedi dechrau ar y broses recriwtio. Rwy’n disgwyl y bydd y broses yn cael ei chynnal yn gyflym er mwyn sicrhau y bydd y Prif Swyddog Digidol yn ei swydd erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf.

Yn ogystal â hyn, byddaf yn sicrhau bod dros filiwn o bunnau ar gael yn y flwyddyn ariannol nesaf i gefnogi trawsnewidiad digidol llywodraeth leol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar annog a galluogi cydweithio.