Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi gwybod i aelodau bod Andy Fry wedi'i benodi'n Brif Gynghorydd Tân ac Achub Cymru.

Mae gan y Prif Gynghorydd Tân ac Achub rôl hanfodol wrth gynorthwyo Gweinidogion Cymru a swyddogion ar barodrwydd gweithredol, perfformiad, strwythur a threfniadaeth Awdurdodau Tân ac Achub Cymru.

Bydd Andy'n ymgymryd â'i ddyletswyddau'n llawn ddechrau mis Gorffennaf pan fydd y deiliad presennol, Des Tidbury, yn gadael y swydd. Mae gan Andy dros 30 mlynedd o brofiad yn y Gwasanaeth Tân a bu'n Brif Swyddog Tân i Wasanaethau Tân ac Achub  Suffolk a Royal Berkshire. Mae wedi ymgymryd â heriau anodd yn Lloegr ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef.

Hoffwn ddiolch i Des Tidbury am ei waith rhagorol yn rhinwedd ei swydd yn Brif Gynghorydd Tân ac Achub ers 2015. Bu cymorth Des i'r holl faterion sy'n ymwneud â thân yn amhrisiadwy, ac rydw i a'm cydweithwyr yn gwerthfawrogi'n benodol ei waith yn cydlynu a goruchwylio ein hymateb i drychineb Tŵr Grenfell. Dymunaf bob llwyddiant iddo i'r dyfodol.

Mae'r Prif Gynghorydd Tân ac Achub yn benodiad gan y Goron, dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Y Prif Gynghorydd sydd hefyd yn gyfrifol yn gyfreithiol am arolygu diogelwch tân ym mhob safle'r Goron nad ydynt yn ymwneud â'r fyddin.