Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Roeddwn yn bresennol yng Nghyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) ym Mrwsel ddydd Llun 14 Mawrth fel rhan o Ddirprwyaeth Weinidogol y DU. Cymerais ran yn y cyfarfodydd briffio arferol a gynhelir cyn y Cyngor, lle cyflwynais y materion sydd o bwys i Gymru. Y Gwir Anrhydeddus Elizabeth Truss AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, oedd y Gweinidog arall o'r DU a oedd yn bresennol. 

Roedd y brif drafodaeth yn y Cyngor yn adlewyrchu'r anawsterau presennol y mae nifer o sectorau amaethyddol yn eu hwynebu. Roedd y ddadl yn asesu digonolrwydd ac effeithiolrwydd y mesurau sy'n bodoli ar hyn o bryd i gefnogi'r farchnad, a ph'un a oedd camau ychwanegol yn angenrheidiol ac yn gymesur ai peidio.

Ymunais â Llywodraeth y DU i annog y Comisiwn Ewropeaidd i ystyried offer a chefnogaeth briodol i alluogi ffermwyr i fod yn gadarn yn wyneb anwadalwch, a rhoi cymorth iddynt ar unwaith, lle bo angen arbennig. Manteisiais ar y cyfle i atgyfnerthu pwysigrwydd mynd i'r afael â heriau'r farchnad ar gyfer y sectorau cig coch, yn ogystal â'r sectorau hynny a restrir yn nogfennaeth y Comisiwn. Yn Sioe Frenhinol Cymru, cyhoeddodd Comisiynydd Hogan cread Grŵp i ystyried y sector Cig Defaid. Lobiais yn uniongyrchol i'r Comisiynydd am aelodaeth Cymreig o'r grŵp hwnnw, a rhoddwyd Hybu Cig Cymru’r aelodaeth. Tynnais sylw at yr angen am y grŵp hwnnw i wneud cynnydd cyflym. Euthum ati hefyd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gweithredu Bwyd a Diod Cymru, 'Tuag at Dwf Cynaliadwy', i weinyddiaethau eraill y DU. Mae'r cynllun hwn ar y trywydd iawn i helpu i sicrhau cynnydd o 30% yng ngwerthiant bwyd a diod o Gymru erbyn diwedd 2020.
O ystyried cyflwr presennol marchnadoedd nwyddau'r byd, rwy'n croesawu'r pecyn ychwanegol o fesurau eithriadol, a gyhoeddwyd wedi hynny gan y Comisiwn Ewropeaidd, a fydd yn defnyddio'r holl offer sydd ar gael yn y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) i gefnogi ffermwyr yr UE wrth ddiogelu marchnad fewnol yr EU.