Lesley Griffiths AM, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, hoffwn roi gwybod ichi y cynhaliwyd cyfarfod arall o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 7 Tachwedd.
Lorna Slater ASA, Gweinidog Sgiliau Gwyrdd, Economi Gylchol a Bioamrywiaeth Llywodraeth yr Alban fu'n cadeirio'r cyfarfod. Hefyd yn bresennol oedd Mairi Gougeon ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a'r Ynysoedd, Llywodraeth yr Alban; Therese Coffey AS y DU, Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Llywodraeth y DU; Mark Spencer AS y DU, Gweinidog Gwladol dros Fwyd, Llywodraeth y DU; John Lamont AS y DU, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, Llywodraeth y DU; James Davies AS y DU, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Llywodraeth y DU; a Katrina Godfrey, Ysgrifennydd Parhaol, Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon yn absenoldeb Gweinidogion Gogledd Iwerddon.
Dyma'r cyfarfod cyntaf o'r Grŵp Rhyngweinidogol ers Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf. Canslwyd cyfarfodydd mis Medi a mis Hydref o ganlyniad i newidiadau yn Llywodraeth y DU.
Yn y cyfarfod, cafwyd trafodaeth ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu), gan gynnwys statws presennol y Bil, ac yn benodol gynlluniau Defra ar gyfer rheoli'r holl ddarnau o ddeddfwriaeth yn y portffolio, sef mwy na 600 o eitemau.
Aethom ymlaen wedyn i drafod ffiniau, a gofynnais am yr wybodaeth ddiweddaraf am y Model Gweithredu Targed, gan nodi fy mhryderon parhaus ynghylch sicrhau bod Safleoedd Rheoli Ffiniau yn barod.
Ar ôl hyn, trafodwyd materion yn ymwneud â threth ar werth mewn perthynas â Chynlluniau Dychwelyd Ernes, sy'n peri pryder i bob un o'r pedair gweinyddiaeth, ond i Lywodraeth yr Alban yn benodol am fod ei chynllun yn lansio yn 2023.
Yn olaf, gwnaethom gytuno i gyhoeddi'r Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd.
Cynhelir y cyfarfod nesaf Ddydd Llun 5 Rhagfyr.
Caiff hysbysiad am y cyfarfod hwn ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU yn https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs. (Saesneg yn unig).