Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'n ddwy flynedd ers i Lywodraeth Cymru benderfynu y dylai Proffylacsis Cyn-gysylltiad (PrEP) fod ar gael fel mater o drefn i bobl sydd mewn perygl o HIV drwy astudiaeth fonitro dair blynedd. Yn y ddwy flynedd yn dilyn y penderfyniad hwnnw, rydym wedi bod yn monitro argaeledd PrEP, a’r defnydd ohono, yn ofalus. Rwy'n falch o ddweud ei fod wedi dod yn rhan annatod o’r gwasanaethau iechyd rhywiol sydd ar gael ledled Cymru erbyn hyn a'i fod ar gael fel mater o drefn. Mae mwy na 1,000 o bobl wedi cael PrEP ers mis Gorffennaf 2017 ac rwy'n falch o ddweud nad oes unrhyw un yn y cohort hwn wedi dal HIV tra bônt yn cael PrEP.
Yng Nghymru, rwy'n falch o ddweud bod pawb y ceir arwyddion clinigol y dylent gael eu trin â PrEP yn gallu ei gael. Wedi dweud hynny, mae tua 24% o'r rheini sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol ac sy'n gymwys i gael PrEP yn ei wrthod. Mae'r rhesymau dros hyn yn gymhleth. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal ymchwil yn awr i ddeall yn well pam mae rhai pobl yn gwrthod y cynnig o PrEP. Edrychaf ymlaen at weld canfyddiadau'r gwaith hwn pan fyddant ar gael ac ystyried pa gamau pellach y gallwn eu cymryd i amddiffyn pobl sydd mewn perygl o HIV.
Mae'r data diweddaraf yn dangos nad oedd 17% o'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol sy'n gymwys i gael PrEP yn hysbys i'r gwasanaeth eisoes. Mae hyn yn golygu bod gennym gyfle i brofi pobl am HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol na fyddai fel arall wedi cael eu profi nac wedi cael diagnosis. Mae o leiaf wyth person wedi cael diagnosis o HIV yn sgil cael y profion sylfaenol a gynhelir cyn i'r claf allu cael PrEP. Drwy ddod o hyd i'r achosion hyn, gallwn gynnig triniaeth effeithiol i unigolion eraill sydd wedi cael eu heffeithio er mwyn gwella eu bywydau, a lleihau'r perygl y caiff yr haint ei throsglwyddo i bobl eraill. Wrth i'n hastudiaeth barhau, bydd gwasanaethau iechyd rhywiol yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth glir o ba mor dderbyniol yw triniaeth PrEP, a'i phatrwm defnydd, a byddant yn addasu'r gwasanaeth a ddarperir er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y grŵp cleientiaid.
Yn sgil cynnal profion canfuwyd hefyd 380 o achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ymhlith y rheini sy'n cymryd PrEP. Mae hyn yn cynnwys 176 o achosion o gonorea a 34 o achosion o siffilis. Yn ystod y degawd diwethaf, mae cynnydd wedi'i weld yn nifer y diagnosis o gonorea a siffilis yng Nghymru, gan adlewyrchu’r cynnydd cyffredinol mewn achosion o’r heintiau a drosglwyddir yn rhywiol hyn ar draws y DU gyfan. Mae'r cynnydd hwn wedi bod yn fwy sylweddol ers 2016. Ymhlith pobl ifanc a dynion sy'n cael rhyw gyda dynion y mae'r heintiau hyn fwyaf cyffredin. Rhwng 2016 a 2018 roedd cynnydd o 79% yn nifer yr achosion o siffilis (o 138 i 247) a chynnydd o 47% yn y diagnosis o gonorea (o 956 i 1,402).
O ystyried bod heintiau gonococaidd ag ymwrthedd i wrthfiotigau wedi dechrau dod i'r amlwg, mae unrhyw newid yn y patrwm o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn peri gofid, ond nid ydym wedi gweld hyn hyd yma yng Nghymru. Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru ystyried beth arall sydd angen ei wneud i leihau'r peryglon a achosir gan yr heintiau hyn. Gwnaed amryw o argymhellion a byddant yn cael eu hystyried yng nghyfarfod nesaf Bwrdd y Rhaglen Iechyd Rhywiol yn yr hydref.
Er mwyn symud ymlaen ag un o'r argymhellion a gafwyd gan yr adolygiad o iechyd rhywiol a gynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddiweddar, cyhoeddais ym mis Medi 2018 fod Llywodraeth Cymru yn mynd i gyllido cynllun peilot chwe mis ar gyfer profi ar-lein am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Rwy'n falch o ddweud bod y cynllun peilot hwnnw wedi bod yn llwyddiannus a bod defnyddwyr gwasanaethau wedi ymateb yn gadarnhaol. Mae canran y bobl a gafodd profion cadarnhaol am clamydia ymhlith y rheini a ddefnyddiodd y gwasanaeth profi ar-lein yn debyg i'r hyn a welwyd ymhlith y rheini a aeth i glinig iechyd rhywiol. Mae hyn yn dangos bod profi ar-lein yn wasanaeth gwerthfawr i gleifion na fyddai fel arall yn defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol. Rwyf wedi cymeradwyo cyllid felly ar gyfer ymestyn y cynllun peilot am chwe mis arall er mwyn gallu cynnal gwerthusiad cadarn. Rwyf hefyd wedi cytuno i gyllido cynllun peilot hunanbrofi ar gyfer clamydia, gonorea a siffilis yng ngharchardai Cymru. Cynhelir y cynllun peilot gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio gyda gofal iechyd carchardai. Disgwylir i gapasiti gwasanaethau iechyd rhywiol mewn carchardai gynyddu yn sgil y gwaith hwn. Bydd hefyd yn gwella mynediad at wasanaethau i'r boblogaeth carchardai, ac yn helpu i godi safon gwasanaethau carchardai i'r un lefel â'r rheini sydd ar gael i'r boblogaeth gyffredinol. Bydd y ddau gynllun peilot hwn yn darparu cipolwg gwerthfawr o ba mor dderbyniol ac ymarferol y mae profi ar-lein ac hunanbrofi a byddant yn helpu i lywio datblygiadau yn narpariaeth gwasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru yn y dyfodol.