Skip to main content

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ym mis Mawrth 2019, gwnaed Datganiad Llafar ar fy rhan gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn dweud ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni ein hymrwymiad  maniffesto i gyflwyno o leiaf 100,000 o brentisiaethau pob oed o ansawdd uchel erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Rwy’n falch o gael dweud wrthych ein bod yn debygol o wneud yn well na’r targed hwn.

Diolch i’r ymdrech aruthrol gan gyflogwyr, darparwyr a gwasanaethau cynghori, mae data dros dro’n dangos bod 74,110 o brentisiaethau wedi dechrau rhwng mis Mai 2016 a Gorffennaf 2019.[1]

Mae ein dull o osod prentisiaethau wrth wraidd ein polisi economaidd i ymateb i'r heriau economaidd sy’n wynebu ein cymunedau wedi talu ar ei ganfed. Mae ein strategaeth i fuddsoddi mewn hyfforddiant yn helpu i roi pobl a busnesau mewn sefyllfa gryfach i ddelio ag effaith globaleiddio, newidiadau technegol a Brexit. Bydd yn darparu enillion economaidd a chymdeithasol ac yn helpu i fynd i'r afael â'r bylchau mewn sgiliau sy’n rhwystro cynhyrchiant a thwf ar hyn o bryd. 

Mae'r dystiolaeth hon hefyd yn dangos mai ein penderfyniad i fynd ati mewn ffordd wahanol i'r Llywodraeth yn Lloegr yw'r un cywir. Cyflwynodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol adroddiad ym mis Mawrth 2019[2] a ddangosodd bod y ffigur ar gyfer prentisiaethau a ddechreuwyd yn Lloegr 25 y cant yn is nag oeddent ddwy flynedd yn ôl. Canfuwyd hefyd bod rhai cyflogwyr yn defnyddio prentisiaethau yn lle hyfforddiant a datblygiad y byddent wedi'u cynnig fel arall heb gyllid cyhoeddus. Yn ogystal, roedd adroddiad annibynnol diweddar yn feirniadol iawn o ail-labelu rhaglenni hyfforddiant i raddedigion a rhai nad ydynt yn raddedigion fel prentisiaethau[3]. Awgrymodd fod manteisio ar radd-brentisiaethau a phrentisiaethau cyffredinol mwy newydd yn Lloegr wedi arwain at lai o brentisiaid yn gyffredinol a phwysau ar eu cyllideb prentisiaethau.

Mae Ardoll Prentisiaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn broblemus. Nid yw’n ddim mwy na threth ar gyflogwyr ac rydym wastad wedi dweud bod yr ardoll yn ymyrryd â chyfrifoldebau datganoledig Cymru. Er fy mod yn gefnogol i'r egwyddor y dylai cyflogwyr gyfrannu at gostau prentisiaethau a datblygu'r gweithlu’n ehangach, nid wyf yn cefnogi anwybyddu anghenion Cymru. Nid wyf yn credu mai ardoll yw'r ateb gan nad ydym yn cefnogi ein busnesau a gweithlu'r dyfodol drwy gyflwyno rhwystrau i hyfforddiant cywir. Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym yn gweithio gyda chyflogwyr ledled Cymru i gefnogi eu hanghenion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Mae ansawdd wrth wraidd ein polisi ac rydym yn datblygu prentisiaethau mewn sectorau twf a galwedigaethau sy'n dod i'r amlwg yn unol â blaenoriaethau a bennwyd gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, gwybodaeth am y farchnad lafur ac adolygiadau sector a gynhaliwyd gan Gymwysterau Cymru. Rydym yn ailgydbwyso ein buddsoddiad i gyd-fynd ag anghenion busnesau Cymru. Rydym yn symud hyfforddiant prentisiaeth o sectorau cost isel, lle mae'r cynnwys sgiliau yn gymharol isel a lle ceir tystiolaeth gyfyngedig o brinder sgiliau ac ychydig iawn o elw, os o gwbl, i'r cyflogwr, i sectorau gwerth uchel gan gynnwys meysydd STEM, technegol a digidol. 

Rydym am i gynifer o ddysgwyr â phosibl barhau â'u dysgu hyd at o leiaf lefel 3, lle caiff manteision gwirioneddol o ran cynhyrchiant eu gwireddu. Rydym wedi defnyddio dulliau ysgogi priodol i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar raglenni prentisiaeth ar lefelau uwch ac mewn sectorau blaenoriaeth a hefyd i leihau nifer y dysgwyr sy'n peidio â pharhau wedi lefel 2.

Rydym yn ehangu prentisiaethau lefel uwch i lenwi'r bwlch sgiliau technegol a hybu cynhyrchiant drwy greu llwybrau newydd i swyddi technegol sgiliau canol. Yno mae’r  prinder sgiliau mwyaf o hyd. Rydym wedi buddsoddi £20m dros y ddwy flynedd nesaf i dreialu a phrofi gradd-brentisiaethau yn y meysydd Digidol/TGCh a Gweithgynhyrchu Uwch. Caiff y cynllun peilot ei werthuso'n annibynnol eleni a bydd yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch y posibilrwydd o ehangu'r cynllun.

Mae gyrru cynwysoldeb, cydraddoldeb a chyfle cyfartal yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol.  Rydym yn gwneud cynnydd da yn erbyn y camau gweithredu  yn “Prentisiaethau Cynhwysol: Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar gyfer Prentisiaethau”. Rydym wedi datblygu deunyddiau marchnata mwy cynhwysol a hygyrch, wedi gwneud newidiadau i feini prawf cymhwystra ac wedi gwella’r cymorth i unigolion a chyflogwyr. Mae'r data diweddaraf ar gyfer 2017/18 yn dangos bod 5.6% o brentisiaid wedi datgan eu bod yn anabl o gymharu â dim ond 3.4% yn 2013/14.

Rydym yn gweithio i gynyddu nifer y prentisiaethau a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg.  Rydym wedi ymgysylltu â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth ddatblygu "Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cyfrwng Cymraeg" sy'n rhoi sail i sefydliadau weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod galw cyson gan bobl ifanc a chyflogwyr am gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg.

Wrth edrych ymlaen, mae angen i ni sicrhau bod cyfnod pontio esmwythach i bobl ifanc sy’n symud at brentisiaethau. Rydym eisoes yn rhoi blaenoriaeth i bobl ifanc 16-19 oed ar y rhaglen ac yn sefydlu ymyriadau i helpu pobl i wneud y dewisiadau cywir am eu dyfodol.  Byddwn hefyd yn gwella amlygrwydd y seilwaith sy'n cefnogi'r rhaglen brentisiaethau drwy lwyfan TGCh newydd i gynnal gwasanaethau. Bydd y llwyfan yn cynnwys gwasanaethcanolog ar gyfer prentisiaethau gwag yng Nghymru, gan alluogi cyflogwyr i hysbysebu eu cyfleoedd am brentisiaethau. 

Byddwn yn parhau i ddatblygu rhaglen brentisiaethau yng Nghymru sy'n ymateb i anghenion cyflogwyr ac yn buddsoddi mewn twf economaidd a chydlyniant cymdeithasol, gan osgoi'r peryglon sy’n nodweddu model Lloegr.

Bydd y dull gweithredu hwn yn cryfhau ansawdd fframweithiau prentisiaethau yng Nghymru ac yn sicrhau bod y ddarpariaeth a werthfawrogir gan gyflogwyr a dysgwyr fel ei gilydd yn parhau.

[1] Dangosfwrdd rhyngweithiol: rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd (Tachwedd 2019) – gweld 27/01/20: https://llyw.cymru/rhaglenni-dysgu-prentisiaeth-ddecreuwyd-dangosfwrdd-rhyngweithiol?_ga=2.207052560.263440483.1580378330-87526102.1552300364

[2] The apprenticeships programme, Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (2019): https://www.nao.org.uk/report/the-apprenticeships-programme/

[3] Runaway Training, Why the apprenticeship levy is broken and how to fix it, EDSK (Ionawr 2020): https://www.edsk.org/publications/runaway-training/

Rhannu’r dudalen hon