Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod manteision posibl porthladdoedd rhydd, ac rydym yn parhau’n barod i ystyried cefnogi camau i sefydlu porthladdoedd rhydd yng Nghymru gydag ysgogiadau polisi datganoledig. Fodd bynnag, mae gennym bryderon hirsefydlog y gallai porthladdoedd rhydd ddisodli gweithgarwch economaidd a thanseilio safonau o ran cyflogaeth a’r amgylchedd.
Mae angen i ni, fel Llywodraeth gyfrifol, sicrhau bod porthladdoedd rhydd yn dangos gwerth am arian a theimlo’n hyderus y bydd cyn lleied â phosibl o effeithiau negyddol yn deillio o’r dull gweithredu hwn. Yn anad dim oherwydd y byddai ymrwymiad penagored gan Lywodraeth Cymru i gynnig swm a fyddai’n cyfateb i gynnig Llywodraeth y DU ar Ardrethi Annomestig a'r Dreth Stamp (y Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru) yn peri risg i refeniw treth Cymru.
Am y rhesymau hyn, rydym wedi ceisio ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU yn gyson a dod i gytundeb ar ffordd o weithredu porthladdoedd rhydd yng Nghymru sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau a'n gwerthoedd fel Llywodraeth.
Ym mis Tachwedd 2020, lansiodd Llywodraeth y DU ei phrosbectws ymgeisio ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr. Dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru allu gweld manylion pwysig am y polisi. Arweiniodd cyhoeddi'r prosbectws at drafodaethau mwy adeiladol sy’n golygu ein bod wedi symud tuag at ganlyniad cadarnhaol i'r polisi.
Ym mis Chwefror 2021, fe wnaethom ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn nodi'r amodau y mae angen eu bodloni er mwyn i Lywodraeth Cymru ymgysylltu'n adeiladol ymhellach, sef:
- Byddai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau ar y cyd - gan gynnwys pennu'r meini prawf ar gyfer ceisiadau, asesu ceisiadau a dyfarnu statws porthladd rhydd.
- Amodoldeb – er mwyn sicrhau bod porthladdoedd rhydd yn cael eu gweithredu mewn modd sy’n adlewyrchu gwerthoedd a blaenoriaethau Gweinidogion Cymru, yn enwedig o ran safonau amgylcheddol, gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol.
- Setliad ariannu teg – sy’n sicrhau nad yw porthladdoedd rhydd yng Nghymru o dan anfantais a hefyd nad yw’n ofynnol i ni ddargyfeirio miliynau o bunnoedd oddi wrth flaenoriaethau eraill. Ar gyfartaledd, disgwylir i Borthladdoedd Rhydd yn Lloegr dderbyn gwerth £25 miliwn yr un mewn cymorth ariannol uniongyrchol.
Yn ystod y pum mis ers i ni anfon y llythyr, ychydig iawn a fu o ran ymgysylltu'n sylweddol ar weithredu porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Fodd bynnag, yng Nghyllideb mis Mawrth 2021, cyhoeddodd y Canghellor leoliadau wyth porthladd rhydd yn Lloegr.
Mae'r amwysedd parhaus wedi dwysáu sefyllfa ansefydlog llawer o'n porthladdoedd a'n busnesau. Mae wedi arwain at gamau gan sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, i ddechrau nodi adnoddau sydd mewn perygl, gan ddatblygu cynlluniau ar gyfer porthladdoedd rhydd er nad oes sicrwydd y byddant yn cael eu creu. Felly, yr wythnos diwethaf, gwnaethom ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn gofyn am eglurder ynghylch safbwynt Llywodraeth y DU.
Yr wythnos hon, ymatebodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys i'n llythyr, gan ddweud ychydig iawn mewn gwirionedd. Yr ydym yn siomedig i ddweud bod Llywodraeth y DU unwaith eto wedi methu â gosod cynnig clir ar sut y gallwn symud y trafodaethau hyn yn eu blaen. Mae'n dod yn fwy amlwg bod Llywodraeth y DU yn amharod i fuddsoddi yn ei blaenoriaeth o ran polisi yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi pennu’r cyllid sbarduno cyfartalog sydd ar gael i borthladdoedd rhydd. Er gwaethaf hyn, mae'n amharod i ymrwymo'r un lefel o gyllid ar gyfer porthladd rhydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ailgyfeirio ei hadnoddau i gyflawni polisi gan Lywodraeth y DU. Mae'r dull hwn yn annerbyniol i ni, ac yr ydym wedi egluro bod porthladdoedd rhydd yn ymyriadau sy’n seiliedig ar le ac nad yw fformiwlâu ariannu sy'n seiliedig ar y boblogaeth yn briodol. Ni allwn dderbyn trefniant lle mae porthladdoedd rhydd yng Nghymru yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai yn Lloegr.
Ein barn o hyd yw y dylai Llywodraeth y DU weithredu er budd y DU wrth gyflawni ei hymrwymiadau a pheidio â cheisio gwasgu ar adnoddau gweinyddiaethau datganoledig yn ystod cyfnodau o her na welwyd eu tebyg o'r blaen.
Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU unwaith eto heddiw, yn gofyn am drafodaeth frys i benderfynu sut y gallwn ddatrys y materion hyn a sicrhau’r eglurder sydd ei angen i roi terfyn ar yr ansicrwydd parhaus hwn. Os na allwn ddod o hyd i ateb ymarferol, bydd angen inni symud ymlaen a chanolbwyntio’n llwyr ar gefnogi'r economi yng Nghymru mewn ffyrdd eraill.