Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydw i heno yn cyhoeddi newidiadau i fy nhîm Gweinidogol. Rwyf wedi gofyn i Jack Sargeant, Aelod o'r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy, ymuno â fy nhîm fel y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Rwyf wedi ehangu cwmpas rhai portffolios Gweinidogol, tra byddaf yn cadw goruchwyliaeth ar gyfer trafodaethau parhaus gyda TATA yn gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.

  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Rebecca Evans AS
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Huw Irranca-Davies AS   
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Lynne Neagle AS  
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Jayne Bryant AS 
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg: Eluned Morgan AS  
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ken Skates AS  
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip: Jane Hutt AS 
  • Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Dawn Bowden AS 
  • Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Jack Sargeant AS   
  • Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar: Sarah Murphy AS 

Noder: Cynigiodd y Cwnsler Cyffredinol ei ymddiswyddiad i'w Fawrhydi y Brenin sydd wedi ei dderbyn. Mae adran 49 (6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn darparu bod y swyddogaethau'n arferadwy gan berson a ddynodwyd gan y Prif Weinidog os yw Swyddfa'r Cwnsler Cyffredinol yn wag. Bydd cadarnhad o'r darpar Gwnsler Cyffredinol yn dilyn.