Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Comisiynais Hefin David AS i lunio darn o ymchwil bwrpasol i werthuso’r berthynas ar hyn o bryd rhwng ysgolion, byd diwydiant a chyflogwyr. Nod yr ymchwil oedd nodi arferion da yn y maes hwn ac adeiladu arnynt, gan helpu ysgolion i feithrin cysylltiadau â busnesau, entrepreneuriaid a chyflogwyr lleol.
Yr wyf bellach wedi cael yr adroddiad: Pontio i Fyd Gwaith: Adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Hoffwn ddiolch yn swyddogol i Hefin a’i dîm am yr adroddiad uchel ei ansawdd hwn. Byddaf yn ystyried argymhellion yr adroddiad, sydd â’r nod o wella profiad dysgwyr sy’n pontio i fyd gwaith. Bydd cyfle i’r Aelodau gyfrannu at y ddadl ynghylch y canfyddiadau yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 4 Gorffennaf.
Mae’r adroddiad wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.