Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Caiff Pont Britannia ei monitro 24 awr y dydd gan weithredwyr yng Nghanolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru, Conwy. Defnyddir nifer o ddulliau i fonitro a gweithredu’r bont a’r ffyrdd sy’n arwain ati. Mewn tywydd gwael, defnyddir CCTV, Arwyddion Negeseuon Electronig ac anemomedrau i fesur cyflymder y gwynt.

Ar 25 Ionawr, cafwyd nam ar y system anemomedrau ac fe gollwyd darlleniadau o’r herwydd. Mae’n debyg mai mellten oedd wedi achosi hyn. Ar 29/30 Ionawr, gosodwyd system anemomedrau dros dro yn yr adeilad trosglwyddo yn union i’r de o’r bont. Gan fod y system honno’n cymryd darlleniadau mewn lleoliad mwy cysgodol, cymhwyswyd ffactor diogelwch o 2.2 i’r darlleniadau wrth benderfynu a ddylid  cau’r bont neu beidio.

Ar 12 Chwefror, roedd y rhagolygon yn darogan gwyntoedd cryfion iawn. Sefydlwyd trefn reoli amlasiantaethol ‘Arian’, rhybuddwyd y gweithredwyr y gallai fod peryglon ychwanegol ac anfonwyd peirianwyr i fesur cyflymder y gwyntoedd â llaw bob 30 munud yn y naill ben a’r llall o’r bont. Roedd patrôl Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru ar y bont hefyd. Yn ogystal, cytunwyd y dylid ystyried yr wybodaeth ychwanegol o ddarlleniadau systemau mesur gwynt Porthladd Caergybi wrth wneud unrhyw benderfyniadau am y Bont. Roedd y Rheolwr Arian yn defnyddio gwybodaeth o’r holl ffynonellau hyn ac yn cydgysylltu â Heddlu Gogledd Cymru wrth wneud penderfyniadau.

Wrth reoli’r bont mewn gwyntoedd cryfion, mae 4 lefel o ymateb, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau sy’n eu sbarduno:

  • Lefel 1:   Rhybuddion o wyntoedd cryfion a therfyn cyflymder cynghorol o 30mya;
  • Lefel 2:   Rhybuddion o wyntoedd cryfion, terfyn cyflymder cynghorol o 20mya a chau’r bont i gerbydau ag ochrau uchel;
  • Lefel 3:   Cau’r bont i bob cerbyd;
  • Lefel 4:   Cau’r bont i bob cerbyd a chynnal archwiliad strwythurol cyn ailagor y bont.
Ar 12 Chwefror roedd ymateb Lefel 2  (sef cau’r bont i gerbydau ag ochrau uchel) yn weithredol am 2 awr bron cyn i Gerbyd Nwyddau Mawr (LGV) droi drosodd ar y bont am 15:46. Roedd y gyrrwr wedi gyrru heibio i’r arwyddion oedd yn datgan bod y bont ar gau i lorïau mawr, ac fe’i cafwyd yn euog o yrru diofal wedyn. Daethpwyd â chraen ar y bont i ailgodi’r cerbyd oedd wedi cwympo ond bu’r bont ar gau am gyfnod hirach nag arfer gan fod rhaid aros i’r gwyntoedd ostegu islaw 20mya cyn gallu defnyddio’r craen. O ganlyniad, ni chwblhawyd y gwaith o ailgodi’r cerbyd ac ailagor y bont tan 08:40 ar 13 Chwefror.

Trwy gydol yr amser y bu’r bont ar gau roedd y Lorïau LGV ar y tir mawr yn aros ym Mryn Cegin, Llandygai ac ar Ffordd Osgoi’r Felinheli. Ar ochr Ynys Môn, arhosodd mwyafrif y lorïau ym Mhorthladd Caergybi. Roedd cerbydau ysgafn yn cael eu cyfeirio dros Bont Menai.

Fel gyda phob digwyddiad mawr o’r fath, byddwn yn cynnal ôl-drafodaeth rhwng pob un o’r asiantaethau perthnasol a bydd unrhyw wersi a ddysgwyd yn cael eu cynnwys yn nhrefniadau gweithredu a chynnal a chadw Pont Britannia yn y dyfodol.