Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Efallai y bydd Aelodau'r Cynulliad yn cofio i mi gyhoeddi ymgynghoriad ar 23 Hydref y llynedd ynghylch cynigion ar gyfer adolygu polisi presennol Llywodraeth Cymru ar reoli a gwaredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd (GUA).  

Polisi presennol Llywodraeth Cymru yw nad yw'n cefnogi nac ychwaith yn gwrthwynebu polisi gwaredu daearegol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer gwaredu GUA.  Ac nid yw Llywodraeth Cymru ychwaith yn cefnogi unrhyw opsiwn arall i waredu GUA ar hyn o bryd.  

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 22 Ionawr.  Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a thystiolaeth arall sydd ar gael yn ofalus rwyf wedi penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu polisi ar gyfer gwaredu GUA a gweddillion tanwydd yn ddaearegol os datgenir eu bod yn wastraff.  Heddiw rwyf wedi cyhoeddi dogfen polisi, cyswllt a atodir i'r datganiad hwn, sy'n nodi polisi newydd Llywodraeth Cymru.  

Mae'r ddogfen polisi hon yn nodi'n fanwl yr ystyriaethau, y cyfyngiadau a'r opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wrth benderfynu mabwysiadu polisi ar gyfer gwaredu daearegol.  Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried gofynion y Gyfarwyddeb Gweddillion Tanwydd a Gwastraff Ymbelydrol, yr angen am gysondeb rhwng ei pholisïau ar gefnogi gorsafoedd ynni niwclear newydd ar safleoedd sy'n bodoli eisoes a rheoli gwastraff ymbelydrol, a'r angen i gydnabod ein cyfrifoldeb i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol drwy roi polisi ar waith sy'n darparu ar gyfer gwaredu'r gwaddol presennol o wastraff ymbelydrol a'r gwastraff a gaiff ei gynhyrchu gan unrhyw orsafoedd ynni niwclear newydd.  

Nid yw mabwysiadu'r polisi hwn yn golygu y caiff cyfleuster gwaredu daearegol (CGD) ei leoli, o reidrwydd, yng Nghymru.  Mae Llywodraeth Cymru yn rhan o raglen Rheoli Gwastraff Ymbelydrol yn Ddiogel sydd hefyd yn cynnwys Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.  Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'n gryf y dull gwirfoddoli lle y byddai cymuned a allai gynnig lleoliad yn ceisio dechrau trafodaethau ynghylch cynnig lleoliad ar gyfer cyfleuster CGD.  Gallai'r trafodaethau hyn bara mwy na degawd pan all cymuned a allai gynnig lleoliad dynnu'n ôl unrhyw bryd.  Ers 2008, o dan bolisi presennol Llywodraeth Cymru, bu'n bosibl i gymuned yng Nghymru geisio dechrau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai dim ond ar sail parodrwydd cymuned neu gymunedau i ystyried cynnig lleoliad ar gyfer CGD y gellir gweithredu gwaredu daearegol.  

Yn unol â'n hymrwymiad i sicrhau y caiff y polisi hwn ei ddatblygu'n dryloyw ac ystyried barn pobl Cymru, rwyf hefyd wedi cyhoeddi papur ymgynghori sy'n ceisio ymatebion ynghylch cynigion ar gyfer ymgysylltu â chymunedau a allai wirfoddoli i gynnig lleoliad ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol.  Mae cyswllt i’r papur ymgynghori hwn yn isod.