Neidio i'r prif gynnwy

Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o Bolisi Cynllunio Cymru (rhifyn 4) sy’n cynnwys polisi diwygiedig ar ynni adnewyddadwy a rhai mân-ffeithiau newydd ynghylch y polisi cynllunio ar adeiladau cynaliadwy.

Lluniwyd y polisi newydd yn sgil cyhoeddi’r Datganiad Polisi Ynni ac ymarfer ymghynghori cyhoeddus ar y polisi drafft yn 2010. Fel y mae’r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 8 Mehefin 2010 yn ei amlinellu, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dilyn trywydd deublyg i gyflawni ei ymrwymiadau yn Cymru’n Un i hwyluso ynni adnewyddadwy. Mae’r fframwaith polisi cynllunio trosfwaol wedi’i ddiweddaru a chynhaliwyd archwiliad o’r materion gweithdrefnol a nodwyd yn Adroddiad GVA Grimley ar y system gynllunio yng Nghymru.

Mae’r rhifyn newydd o Bolisi Cynllunio Cymru yn nodi graddfeydd gwahanol o ynni carbon isel ac adnewyddadwy, gan gydnabod nad drwy’r system gynllunio y penderfynir ar gynigion ynni mawr dros 50MW ac nad ydynt wedi’u datganoli i Weinidogion Cymru. Mae’r polisi yn ceisio sefydlu fframwaith diwygiedig i hwyluso’r ffordd i wireddu dyheadau datblygu cynaliadwy ehangach Llywodraeth y Cynulliad ac mae’n annog awdurdodau cynllunio i gynllunio ar gyfer ynni carbon isel ac adnewyddadwy drwy gynnal asesiadau o botensial eu hardal i adeiladu datblygiadau newydd y dylid eu defnyddio fel rhan o’r sylfaen dystiolaeth dros eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

Mae’r polisi diwygiedig hefyd yn cyfeirio at Gyfarwyddeb yr UE ar hyrwyddo ynni adnewyddadwy sy’n rhoi gofynion penodol ar y system gynllunio i hwyluso datblygu ynni adnewyddadwy.

Mae egwyddor Ardaloedd Chwilio Strategol mewn perthynas â ffermydd gwynt graddfa fawr ar y tir a amlinellwyd mewn polisi blaenorol gan Lywodraeth y Cynulliad ac a gyhoeddwyd yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8 yn 2005 yn aros yr un fath ac mae’n parhau’n elfen bwysig o’n polisi. Ynghyd â’r polisi diwygiedig, rydym hefyd wedi cyhoeddi llythyr i awdurdodau cynllunio sy’n diweddaru’r ffeithiau yn TAN 8 ac mae wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Cynulliad.

Rydym wedi ceisio rhoi canllawiau wedi’u diweddaru i awdurdodau cynllunio ar sut dylai Cynlluniau Datblygu Lleol adlewyrchu polisïau Llywodraeth y Cynulliad yn ogystal â sut dylid eu hadlewyrchu wrth ystyried ceisiadau cynllunio unigol.

Mae’r fersiwn newydd o Bolisi Cynllunio Cymru hefyd yn cynnwys ffeithiau sydd wedi’u diweddaru ychydig ynghylch polisi cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy sy’n nodi’r safonau a ddisgwylir lle mae safle wedi’i gofrestru o dan Fersiwn 3 y Cod Cartrefi Cynaliadwy.

Mae’r Datganiad Polisi Ynni yn cydnabod bod cryn botensial i dechnolegau microgynhyrchu yng Nghymru. Ym mis Ebrill 2010, cyflwynodd Llywodraeth y DU Dariffau Cyflenwi Trydan sy’n gwarantu incwm ar gyfer trydan a gynhyrchir gan dechnolegau microgynhyrchu. Lansiodd Llywodraeth y Cynulliad raglen gymorth sy’n ardystio gosodwyr, a gwelwyd twf na welwyd ei debyg yn nifer y gosodwyr yng Nghymru, gyda chyfanswm o 84 o gyfrif pob technoleg - cynnydd o 261% ers Awst y llynedd. Yn ogystal â’r cyngor, y cymorth a’r benthyciadau di-log sydd ar gael o dan raglen gymorth MCS, mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn rhoi cymhorthdal i gyrsiau hyfforddi rheoli ansawdd ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru.