Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol,
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd a
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn seiliedig ar werthoedd unigryw Cymru o ran cymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae'n rhoi mwy o flaenoriaeth i gydweithio nag i gystadleuaeth, gan ddangos sut y byddwn yn gweithredu i sicrhau'r tegwch mwyaf posibl i bawb a dileu anghydraddoldeb ar bob lefel o gymdeithas.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ein cymunedau wedi wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen, ac mae’r effeithiau yn dal i ddod i’r amlwg. Ceir tystiolaeth gynyddol nad yw pob cymuned wedi ymdopi yn yr un modd, a bod y rhai sydd ag adnoddau allweddol, gan gynnwys asedau ffisegol, partneriaethau cryf ac eiriolwyr lleol, yn tueddu i fod yn fwy gwydn yn wyneb y mathau o ergydion y mae pob un ohonynt wedi'u profi yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac sy'n debygol o barhau. Ac eto, yn yr amgylchiadau mwyaf heriol, dro ar ôl tro mae cymunedau Cymru wedi dangos y cryfder, y gwydnwch a’r undod sy’n arddangos mor glir pwy ydym fel cenedl.
Mae ein sgyrsiau gyda’n partneriaid yn dweud wrthym bod angen edrych o’r newydd ar bolisi cymunedol yng ngoleuni’r pandemig, pan oedd gweithredu ar lefel leol mor hanfodol. Rydym nawr yn cymryd y camau cyntaf i ddatblygu Polisi Cymunedau a fydd, yn ei dro, yn datblygu ffyrdd newydd, cydgynhyrchiol o weithio gyda’n cymunedau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod egwyddorion grymuso cymunedol sydd eisoes yn rhan annatod o’n deddfwriaeth sylfaenol yn cael eu cymhwyso mewn ffordd gyson i brosesau ymgysylltu lleol effeithiol.
Mae llawer o ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu yn canolbwyntio ar alluogi pobl i ffynnu yn eu hardaloedd lleol yn ogystal â chefnogi cymunedau o ddiddordeb, er enghraifft:
- Datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru.
- Buddsoddi yn amgylchedd dysgu ysgolion cymunedol.
- Sicrhau bod hanes a diwylliant cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu cynrychioli'n briodol, fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
- Datblygu naratif cadarnhaol ynghylch mynd i'r afael â newid hinsawdd a chefnogi ynni adnewyddadwy, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig.
- Cefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan y gymuned, ac ymddiriedolaethau tir cymunedol.
- Datblygu mwy na 50 o ganolfannau cymunedol lleol i gydleoli gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a gwasanaethau eraill.
- Cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ystyried effeithiau eu penderfyniadau, yn enwedig ar gymunedau difreintiedig.
- Gwneud Cymru yn Genedl Noddfa, drwy haelioni cymunedau ym mhob rhan o Gymru sydd, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi creu cartref i bobl o Syria, Affganistan a nawr Wcráin.
Mae'n amserol inni edrych eto ar sut mae'r rhaglenni hyn a llawer o raglenni eraill yn dod at ei gilydd ar lefel leol iawn, a sut mae pob rhan o Lywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn gweithio gyda'n cymunedau. Rydym hefyd am wrando ar ein cymunedau a dysgu ganddynt, gan fanteisio ar eu gwybodaeth leol a’u profiad gwerthfawr. Ar yr un pryd, rydym am barchu’r strwythurau lleol a rhanbarthol sydd ar waith yn llawn. Nid gosod beichiau neu ddyletswyddau newydd yw’r nod, ond ategu deddfwriaeth a pholisïau pwysig sydd eisoes yn bodoli, fel Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, gan ein helpu i ddarganfod gyda’n gilydd beth yn rhagor y gellir ei wneud i gefnogi ein cymunedau.
Rydym yn cydnabod nad rhaglen gymunedol annibynnol yw'r hyn sydd ei angen nawr, ond ymateb trawsbynciol gan y Llywodraeth gyfan. Bydd hyn yn golygu gweithio gyda’n cymunedau a phartneriaid eraill i gyd-greu ffyrdd o helpu i gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu, gan sicrhau ar yr un pryd bod ein holl gymunedau yn ffynnu, wedi’u grymuso ac yn gydgysylltiedig.
I hwyluso’r dull gweithredu newydd hwn, rydym wedi datblygu Bwrdd Polisi Cymunedol mewnol, sydd â chynrychiolaeth i bob portffolio Gweinidogol, ac rydym wedi casglu gwybodaeth am fwy na 100 o raglenni a ffrydiau ariannu Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â’r gymuned. Mae angen inni nawr ehangu ein trafodaethau i gynnwys rhanddeiliaid ar bob lefel yng Nghymru, gan gynnwys cymunedau eu hunain. Rydym yn bwriadu dechrau gyda gwaith peilot mewn rhai ardaloedd penodol, drwy gytundeb gyda’u Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, er mwyn dysgu mwy am yr hyn sy’n digwydd o fewn eu cymunedau ac ymchwilio i beth yn rhagor y gellir ei wneud.
Bydd sawl agwedd i’r gwaith hwn, ac yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi gwaith ymchwil ar Dulliau seiliedig ar le o ymgysylltu a chefnogi cymunedol a fydd yn llywio’r cam nesaf. Er enghraifft, mae asedau lleol megis canolfannau cymunedol, ardaloedd gwyrdd a safleoedd treftadaeth o bwys mawr i lawer o gymunedau. Mae ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi darparu dros £41miliwn ers 2015 i helpu cymunedau ledled Cymru i brynu, datblygu a gwella adeiladau lleol ac ardaloedd gwyrdd hollbwysig. Rydym hefyd wedi gwneud ymrwymiad cadarn i gefnogi trefniadau i drosglwyddo asedau cymunedol a chefnogi datblygiadau a arweinir gan gymunedau drwy ddarparu fframwaith cymorth sy’n rhoi cyngor, arweiniad a chyllid. Mae yna heriau o’n blaen – bydd methiant Llywodraeth y DU i wneud iawn am gronfeydd strwythurol pwysig a gollwyd o’r UE yn effeithio ar lawer o gymunedau a grwpiau trydydd sector. Er na all Llywodraeth Cymru ailsefydlu’r cyllid coll hwnnw, mae’n annog ac yn cefnogi ymgysylltu lleol effeithiol pwysig.
Mae sawl ffurf arall ar waith cymunedol yn berthnasol hefyd, a gwyddom fod enghreifftiau niferus ac amrywiol o ddemocratiaeth uniongyrchol ar waith ledled Cymru. Rydym am annog cymaint o bobl â phosibl i gyfrannu at ddatblygu ein Polisi Cymunedau newydd, ac rydym yn gwahodd unrhyw un sydd am wybod mwy i gysylltu â ni yn PolisiCymunedau@llyw.cymru.