Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Nodyn Cyngor Caffael newydd ar ddur a fydd yn cefnogi'r gwaith o gyrchu a chaffael dur mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yng Nghymru.

Rydym yn cyhoeddi'r Nodyn Cyngor fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi hyfywedd hirdymor y diwydiant cynhyrchu dur yng Nghymru. Mae hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw'r diwydiant dur i economi Cymru a'r DU o ran darparu swyddi cyflogau uwch sy'n gofyn am lawer o sgiliau – yn uniongyrchol ac yn y gadwyn gyflenwi – ac fel buddsoddwr allweddol ym meysydd addysg bellach, ymchwil a datblygu.

Mae'r Nodyn Cyngor yn enghraifft arall o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu cyfleoedd i gyflenwyr lleol wneud cais am gontractau cyhoeddus, un ai'n uniongyrchol neu drwy'r gadwyn gyflenwi, ac mae'n rhan o'n pecyn cymorth ehangach i'r sector dur yng Nghymru. Mae hefyd yn tynnu sylw at ein polisi parhaus i gefnogi arferion busnes moesegol drwy ddefnyddio polisi caffael cyhoeddus.

Bwriad y Nodyn Cyngor yw annog cymaint o ddefnydd â phosibl o ddur o Gymru a'r DU yng nghontractau'r sector cyhoeddus. Mae cyrff y sector cyhoeddus yn cael eu hannog i benderfynu pa rai o'u caffaeliadau sy’n brosiectau ‘mawr’ lle mae dur yn debygol o fod yn elfen hanfodol.

Gallai prosiectau mawr gynnwys y canlynol, ymysg eraill:

• Prosiectau seilwaith, fel rheilffyrdd a ffyrdd;

• Prosiectau adeiladu neu adnewyddu carchardai, ysbytai, prifysgolion, tai, canolfannau cymunedol, pontydd ac ysgolion;

• Amddiffynfeydd llifogydd.

Rydym eisoes yn gweld canlyniadau'r Nodyn Cyngor Caffael cyntaf a gyhoeddwyd yn 2016 ar brosiect Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Daw 89% o'r bariau atgyfnerthu dur ar gyfer y prosiect o Gymru.

Mae'r Nodyn Cyngor yn ffrwyth gwaith is-grŵp caffael Tasglu Tata Steel Llywodraeth Cymru a sefydlwyd yn 2016 i ymateb i'r amodau gwael yn y farchnad dur yn ystod 2015-16. Mae'r is-grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o ochr gyflenwi Tata Steel, Celsa Steel UK, y Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianyddol, yn cynrychioli UK Steel, swyddogion Llywodraeth Cymru a Gwerth Cymru.

Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r is-grŵp caffael dur am eu gwaith yn datblygu'r Nodyn Cyngor newydd hwn, sydd ar gael ar dudalen y Canllaw Cynllunio Caffael yma http://prp.gov.wales/?lang=cy