Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Mae'n bleser gen i heddiw gyhoeddi canlyniad ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor. Ar ôl ystyried yr ymatebion, mae'n bleser gen i hefyd gyhoeddi fy mwriad i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn sicrhau bod pobl sy'n gadael gofal yn cael eu heithrio rhag talu'r dreth gyngor o 1 Ebrill 2019.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 19 Rhagfyr 2018, a chafwyd ymatebion gan y rheini sy'n gadael gofal, awdurdodau lleol, sefydliadau trydydd sector a threthdalwyr unigol. Roedd 90% o'r ymatebwyr yn cefnogi ein cynigion.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal a'u cynorthwyo wrth iddynt dyfu'n oedolion a byw'n annibynnol.
Yn Symud Cymru Ymlaen, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i wneud y dreth gyngor yn decach. Mae gennym raglen waith eang ar y gweill i edrych ar sut y gellid gwella'r system dreth gyngor dros y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hirach er mwyn parhau i gyflawni'r ymrwymiad hwn.
Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yma:
https://beta.llyw.cymru/eithriadau-treth-cyngor-ar-gyfer-pobl-syn-gadael-gofal