Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n dda gennyf roi gwybod i’r aelodau bod Gweinidogion Iechyd heddiw wedi cymeradwyo codi’r gwaharddiad presennol ar ffracsiynu plasma’r DU ar gyfer ei ddefnyddio mewn cynnyrch meddyginiaethol sy’n deillio o blasma, yn sgil yr adolygiad gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, a’r cyngor dilynol gan y Comisiwn Meddyginiaethau Dynol.
Yn 1999, mewn ymateb i ymddangosiad yr epidemig vCJD yn y DU, salwch y credir ei fod yn gysylltiedig â bwyta cynhyrchion cig o wartheg a oedd yn dioddef o Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol, cyflwynodd Llywodraeth y DU waharddiad ar ddefnyddio plasma gwaed dynol y DU i weithgynhyrchu unrhyw gynnyrch meddyginiaethol sy’n deillio o blasma.
Ymhellach na hynny, rydym wedi cytuno i gynnwys amod yn y caniatadau newydd y mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchiol Gofal yn eu rhoi i sefydliadau gwaed, y dylid defnyddio plasma a gesglir er budd preswylwyr y DU, o leiaf nes i’r galw domestig gael ei fodloni.