Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau gyda golwg ar leihau nifer y plant sydd yn cael eu cadw yng ngwarchodaeth yr heddlu dros nos.  

Cynhyrchwyd y canllawiau fel rhan o brosiect a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2015 yn sgil pryderon am y nifer o blant  a oedd yn cael eu cadw yn amhriodol yng nghelloedd yr heddlu dros nos tra bônt yn disgwyl i ymddangos yn y llys drannoeth.  Roedd yn canolbwyntio’n bennaf ar blant a oedd wedi’u cyhuddo o drosedd ond heb gael mechnïaeth, ac y dylasent gael eu trosglwyddo i uned ddiogel neu lety awdurdod lleol o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  

Roedd y prosiect yn golygu cydweithio llawer a chydweithredu â phob asiantaeth berthnasol, yn cynnwys y pedwar llu heddlu Cymreig, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, timau dyletswydd brys a Thimau Troseddau Ieuenctid.  Mae wedi cryfhau’r berthynas weithio rhwng staff rheng flaen yr heddlu a’r awdurdodau lleol, wedi cychwyn hyfforddiant ar y cyd ar lefel leol ac wedi gwella’r ffordd o gasglu data a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau.

Mae ‘Canllawiau Cymru ar reoli a throsglwyddo plant a phobl ifanc sydd yng ngofal yr Heddlu a’r Awdurdodau Lleol o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984’  yn nodi rolau a chyfrifoldebau’r heddlu a’r awdurdodau lleol o dan y ddeddfwriaeth, ac mae’n cynnwys protocol model i’w ddefnyddio gan asiantaethau i sicrhau’r arfer gorau ledled Cymru.    

Rwy’n gwerthfawrogi cefnogaeth a chyfraniad yr holl sefydliadau a fu’n ymwneud â’r gwaith ac rwy’n gobeithio y bydd y canllawiau hyn yn help i bobl ifanc gael mynediad at gymorth amserol a phwrpasol yn y dyfodol.  

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

http://llyw.cymru/topics/people-and-communities/communities/safety/publications/all-wales-guidance-for-management-transfer-children-young-people/?lang=cy