Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O ddechrau pandemig y coronafeirws, ein blaenoriaeth yw cadw plant a phobl ifanc mor ddiogel â phosibl. 

Rydym wedi cymryd cyfres o gamau digynsail i arafu’r coronafeirws ac i’w atal rhag lledaenu – ac mae’r rhain yn cael effaith gadarnhaol. Ond rydym yn gwybod fod llawer o blant a phobl ifanc wedi ei gweld yn anodd byw â’r cyfyngiadau hyn.

Hoffwn ddiolch i bawb sy’n helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel.

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, a maes iechyd a sectorau eraill i gefnogi plant sy’n agored i niwed ac mewn perygl . 

Rydym wedi trefnu amrywiaeth o gymorth - o ganllawiau i gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion. Rydym hefyd wedi pasio deddfwriaeth frys i gynyddu nifer y gweithwyr cymdeithasol cofrestredig.

Mae lleoliadau addysg a gofal plant yn agored i blant a chanddynt weithwyr cymdeithasol a phlant gweithwyr hanfodol. Ni yw’r unig un o wledydd y DU i gynnig gofal am ddim i’r plant hyn (sydd o dan 5 oed).  

Rydym wedi ysgrifennu at yr holl gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a chyfarwyddwyr addysg i ofyn iddynt sicrhau bod pob plentyn sydd â datganiad o anghenion addysgol yn cael asesiad risg er mwyn gweld a oes angen iddynt fynd i ysgol neu ganolfan. Gofynnwyd hefyd bod awdurdodau’n defnyddio dull cyson, aml-asiantaeth i annog rhieni plant sydd â gweithwyr cymdeithasol i weld mynd i ysgol neu ganolfan fel rhywbeth defnyddiol, yn enwedig os ydynt yn gweld byw o fewn y cyfyngiadau’n anodd.

Rydym yn parhau i roi blaenoriaeth i les y teuluoedd y mae angen y cymorth mwyaf arnynt. Rydym wedi darparu canllawiau i ysgolion ac awdurdodau lleol ynghylch yr hyn y gallant ei wneud i sicrhau bod disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn parhau i gael bwyd tra bo’u hysgol arferol ar gau.

Mae £40 miliwn ychwanegol wedi’i ddarparu i awdurdodau lleol er mwyn iddynt barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim i blant sy’n gymwys hyd nes bo’r ysgolion yn ail-agor, neu hyd at ddiwedd mis Awst. Ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn.

Mae'r Byrddau Iechyd wedi parhau i ddarparu gwasanaethau i blant, gan gynnwys ymweliadau iechyd fel rhan o raglen Plant Iach. Mae plant ag anghenion iechyd neu ofal cymhleth ychwanegol, gan gynnwys pryderon diogelu, hefyd yn cael eu cefnogi gan wasanaethau nyrsio mewn ysgolion a gwasanaethau nyrsio plant cymunedol.

Bydd ein Cynllun Cadw'n Ddiogel. Dal ati i ddysgu, ein Cynllun Parhad Dysgu  yn sicrhau bod ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn addasu y ffyrdd y maent yn ymateb er mwyn diwallu anghenion a datblygiad pob dysgwr difreintiedig ac sy'n agored i niwed, ym mhob agwedd ar fywyd ysgol. 

Rydym wedi darparu £3 miliwn yn ychwanegol i gefnogi dysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yng Nghymru - mae hyn yn rhan o fuddsoddiad o £30 miliwn i seilwaith technoleg addysg mewn ysgolion. Yn ogystal â darparu mynediad at liniaduron a dyfeisiau cysylltedd, mae Hwb, ein platfform dysgu digidol, hefyd yn cynnig mynediad at amrywiaeth o adnoddau diogelu, ar gyfer materion fel y cyfryngau cymdeithasol, bwlio, rhannu delweddau, chwarae gemau, camwybodaeth a meithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein. 

Cafodd parth diogelwch ar-lein ei greu ar Hwb fel y gall plant gael gafael ar gymorth os ydynt yn teimlo'n anhapus neu'n anniogel.

Mae ysgolion arbennig wedi sefydlu dulliau amlasiantaethol effeithiol i gefnogi dysgwyr a theuluoedd, gan gynnwys cydgysylltu â gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Mae penaethiaid ysgolion arbennig yn dweud wrthym eu bod wedi gweld cynnydd yn niddordeb rhieni ac mewn cyswllt dyddiol sy'n arwain at gryfhau'r berthynas bwysig rhwng ysgolion arbennig a rhieni.

Rydym yn falch bod gwasanaethau gwaith ieuenctid yn chwarae rhan weithredol yn yr ymateb i’r coronafeirws. Mae gweithwyr ieuenctid yn gweithio mewn ffyrdd newydd sy’n parhau i ddatblygu, gan gynnwys gweithio drwy glybiau ieuenctid ar-lein, drwy gefnogi ymatebion gan y rheng flaen a chefnogi staff ysgolion a chanolfannau, a thrwy fynd ati i estyn allan drwy ddefnyddio dulliau digidol a ffôn i gysylltu â phobl ifanc ac ymateb i'w pryderon, eu cwestiynau, a’u ceisiadau am gymorth. 

Mae gwasanaethau plant ar gael ac yn agored i unrhyw un y mae angen cymorth arnynt. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg ar y cyd â'r NSPCC, Plant yng Nghymru a'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid sy’n nodi’r hyn mae’n rhaid inni i gyd gymryd cyfrifoldeb amdano o ran cadw ein plant yn ddiogel. 

Rydym wedi sefydlu tudalen benodol ar ein gwefan ynghylch diogelu - ac rydym yn atgoffa pobl y dylent ffonio 101 neu gysylltu â'u hawdurdod lleol os oes ganddynt unrhyw bryderon bod plentyn neu oedolyn yn cael ei niweidio. 

Gall plant a phobl ifanc sy'n pryderu ynghylch eu hunain neu rywun arall gysylltu â Childline ar 0800 1111.