Jane Hutt AC, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yr wythnos diwethaf gwnaethom ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i gefnogi’r ymgyrch sy’n galw ar i’r ddyletswydd i negodi’r hawliau aduno presennol sydd gan deuluoedd sy'n ceisio lloches gael ei chadw ym Mil Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd 2019. Yr wythnos hon yn y cyfarfod llawn, pwysleisiodd y Prif Weinidog yr un safbwynt. Yr wythnos diwethaf, pleidleisiodd Tŷ'r Cyffredin i anwybyddu lles gorau plant sy'n ffoaduriaid yn Ewrop a gwadu'r hawl iddynt fyw bywyd teuluol yn y DU. Mae'n drueni mawr gennym fod Llywodraeth y DU wedi dewis safbwynt sy'n gwbl groes i'r 'hanes balch' y mae'n aml yn cyfeirio ato o ran rhoi lloches i'r rhai sydd ei angen. Yn yr achos hwn, nid yw wedi rhoi gwir ystyr i'r geiriau hynny. Mae'r drafodaeth yn parhau yn Nhŷ'r Arglwyddi a bydd y Bil Ymadael yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin yr wythnos nesaf. Rydym yn aros am ganlyniad y pleidleisiau ac yn annog Senedd y Deyrnas Unedig i gadw'r darpariaethau presennol.
Yng Nghymru, rydym yn gwneud yr hyn y gallwn ei wneud yn ddiogel i groesawu plant digwmni sy'n ceisio lloches yma heb deulu, ac rydym wedi cymryd sawl cam cadarnhaol i'w cefnogi. Mae Cymru yn gartref i tua 100 o blant digwmni sy'n ceisio lloches, heb deulu y gallant ymuno â nhw. Nid yw'r rhan fwyaf o'r bobl ifanc hyn yn cyrraedd mewn modd wedi'i gynllunio, trwy gynllun y llywodraeth (fel Cynllun Dubs y darperir ar ei gyfer drwy adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016). Mae hyn yn arwain at bwysau unigryw ar ein gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Dyma pam rydym wedi buddsoddi dros hanner miliwn o bunnau i ariannu cymorth, hyfforddiant, adnoddau ac ymchwil mewn gwaith cymdeithasol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth i ddatblygu eu capasiti proffesiynol, eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol a'u hyder o ran cefnogi'r bobl ifanc hyn. Rydym yn trin plant digwmni sy'n ceisio lloches yn yr un modd â phlant sy’n derbyn gofal, gan roi'r un hawliau iddynt o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ein gwasanaethau cyhoeddus sydd â'r ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu ar gyfer y bobl ifanc hyn. Felly rydym eisiau iddynt fod â'r adnoddau a'r sgiliau angenrheidiol i ymateb i’w hanghenion penodol.
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, gan eu hariannu'n uniongyrchol a thrwy CLlLC a Phartneriaeth Mudo Strategol Cymru. Mae CLlLC a Phartneriaeth Mudo Strategol Cymru yn rheoli peth o gyllid Llywodraeth Cymru ac un o'r gweithgareddau y mae wedi'i gomisiynu gyda'n harian yw cyfres o wythnosau gweithgareddau a dysgu Cymraeg a Saesneg. Mae'r bobl ifanc wedi manteisio'n aruthrol o'r amser hwn, gan wella eu sgiliau iaith a'u hyder cymdeithasol. Rydym hefyd wedi ariannu'r pedwar bwrdd iechyd yn yr ardaloedd gwasgaru i oedolion i roi gwasanaethau iechyd i oedolion a phlant sy'n geiswyr lloches a ffoaduriaid. Gyda'r cyllid hwn, yng Ngwent penodwyd Ymwelydd Iechyd rhan amser yn benodol i roi gwasanaethau iechyd i blant, ac yng Nghaerdydd mae'r Practis Mynediad i Iechyd yn parhau i roi gwasanaethau iechyd i blant gan gynnwys cymorth iechyd meddwl ychwanegol. Rydym hefyd wedi gwneud Rheoliadau sy'n rhoi pwerau i gymdeithasau tai roi llety i bobl ifanc sydd wedi eu hadsefydlu yng Nghymru o dan Gynllun Dubs, ac rydym wedi gwneud Rheoliadau sy'n rhoi mynediad i'r bobl ifanc hyn at Fenthyciadau i Fyfyrwyr.
Ochr yn ochr â'n gwasanaethau cyhoeddus, rydym eisiau i'n partneriaid yn y trydydd sector ac ar lawr gwlad i barhau â'u hymdrechion, gan weithio ochr yn ochr â sefydliadau statudol, a chefnogi ac ategu eu gwaith. Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru a'u partneriaid yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu'r Rhaglen Hawliau Lloches. O fewn y rhaglen honno rhoddir gwasanaethau eiriolaeth i’r bobl ifanc hyn os oes anghydfod ynglŷn a’u hoed, yn ogystal ag eiriolaeth sydd ar gael o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth, ymarferwyr iechyd, y trydydd sector, y sector llawr gwlad a'r holl wirfoddolwyr am eu holl waith i ddarparu gofal a chymorth i'r bobl ifanc hyn.
Mae Cymru wedi darparu lleoliadau ar gyfer 18 o bobl ifanc yng Nghymru drwy Gynllun Dubs. Mae'r nifer hwn, o'i gymharu â'r niferoedd yn Lloegr, a phoblogaethau'r ddwy wlad, yn dangos ein bod wedi lleoli cyfran uwch yma yng Nghymru. Er ein bod yn wlad fach, rydym yn amlwg yn gwneud ein siâr. At hynny, ar gyfartaledd, mae mwy o awdurdodau lleol Cymru yn rhoi cartrefi i'r bobl ifanc hyn, na chynghorau yn Lloegr. Hoffem gynnig lloches i fwy o bobl ifanc ac rydym yn credu pe bai Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â'i dymuniad i ddiogelu plant sy'n ffoaduriaid, y byddai'n ariannu cynlluniau fel Dubs yn briodol ac yn galluogi awdurdodau lleol i gynyddu eu capasiti i roi cefnogaeth. Nid yw Cynllun Dubs wedi'i ariannu na'i gefnogi o ddifrif yn yr un modd â chynlluniau eraill Llywodraeth y DU fel Cynllun Adsefydlu Pobl Syria a'r cynllun newydd a ddaeth yn lle'r cynllun hwn. Gwyddom fod cyfradd ddyddiol yn cael ei thalu gan y Swyddfa Gartref ond nad yw'n ddigon i dalu'r costau llawn. Rydym wedi dweud hyn wrth y Swyddfa Gartref ar sawl achlysur. Eto, os yw Llywodraeth y DU yn dymuno rhoi gwir ystyr i'r ymadrodd 'hanes balch' o ddarparu diogelwch rhyngwladol, dylai roi cymorth go iawn i'r awdurdodau lleol sy'n gweithio'n galed bob dydd i ddarparu ar gyfer y bobl ifanc hyn.
I ddyfynnu'r Arglwydd Dubs, eiriolwr grymus ar gyfer plant sy'n ffoaduriaid, byddai'n 'bradychu safbwynt dyngarol Prydain' pe na bai Llywodraeth y DU yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y byd, sydd wedi ffoi rhag rhyfel, tlodi, erledigaeth, newid hinsawdd a therfysgaeth heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Dylai'r cymorth hwn gynnwys sicrhau bod Llywodraeth y DU yn rhoi'r cyllid priodol i awdurdodau lleol ddarparu ar gyfer y bobl ifanc hyn.