Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Proses yw Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (“EIA”) ar gyfer penderfynu ar brosiectau sy'n debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd gan ddefnyddio'r wybodaeth drylwyraf bosib fel bod anghenion yr amgylchedd a rhai cenedlaethau'r dyfodol yn cael y sylw priodol.

Ar 31 Ionawr, daeth y cyd-ymgynghoriad cyhoeddus gan y DU a'r Llywodraethau Datganoledig ar drosi Cyfarwyddeb 2014/52/EU i ben. Mae'r Gyfarwyddeb yn diwygio Cyfarwyddeb 2011/92/EU a sefydlodd proses yr EIA ar draws yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd y cyd-ymgynghoriad yn ymdrin â sawl trefn, gan gynnwys Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999 ("y Rheoliadau") sy'n rheoli prosiectau coedwigaeth yng Nghymru a Lloegr. O dan y Rheoliadau, mae angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru ("CNC") i gynnal prosiectau coedwigaeth penodol gan gynnwys plannu coetiroedd newydd o fath, maint a lleoliad sy'n debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd.  Os oes angen caniatâd, rhaid i gynigydd y prosiect gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol

Mae'r Rheoliadau'n pennu trothwyon sy'n diffinio'r pwynt lle bydd prosiectau plannu neu goedwigo newydd yn debygol o gael effaith arwyddocaol ac y bydd angen caniatâd arnynt. Fel arfer, ond nid bob tro, os yw prosiect o dan y trothwy perthnasol, credir na fydd yn debygol o gael effaith arwyddocaol. Mae prosiectau uwchlaw'r trothwyon hyn yn cael eu hystyried (“sgrinio”) gan CNC a fydd yn penderfynu a oes angen cynnal EIA llawn neu beidio. Dyma'r trothwyon presennol: 5 hectar mewn ardal nad yw'n sensitif, 2 hectar mewn ardal sensitif fel Parc Cenedlaethol neu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol; a sero yn yr ardaloedd mwyaf sensitif, fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid parhau i dderbyn caniatád ar gyfer prosiectau sydd o dan y trothwy perthnasol os ydy CNC o’r farn, er gwaethaf y ffaith eu bod yn brosiectau bychain (er enghraifft ble y maent yn agos at gynefin arbennig o sensitif) maent yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd.

Gofynnodd yr ymgynghoriad am farn ynghylch cynyddu'r trothwy ar gyfer ardaloedd nad ydyn nhw'n sensitif i naill ai 20 neu 50 hectar. Roedd cynnig yr ymgynghoriad y byddai'r trothwy ar  gyfer ardaloedd sensitif yn para ar 2 hectar neu lai a sero yn yr ardaloedd mwyaf sensitif lle caiff pob prosiect coedwigo ei sgrinio. Daeth 95 o ymatebion i law ynglŷn â hyn.  Er bod cefnogaeth eang o blaid creu coetiroedd, nid oedd y mwyafrif (80%) o blaid cynyddu trothwy'r ardaloedd heb sensitifeddau ac roedd llawer o'r farn y dylid gostwng y trothwy er mwyn diogelu cynefinoedd a bywyd gwyllt. Mae’r farn ar lefel y trothwy (fel y dangosodd yr ymgynghoriad) yn pegynu safbwyntiau rhwng y rheini sy'n credu y byddai cynyddu'r lefel yn gwanhau mesurau i ddiogelu'r amgylchedd a'r rheini sy'n teimlo y byddai cynyddu'r trothwy yn annog plannu mwy o goetir.

Mae'r trothwyon coedwigo presennol wedi bod yn weithredol ers bron 20 mlynedd. Yn yr amser hwnnw, ni chafodd asesiad o'r effaith amgylcheddol ei gynnal ar unrhyw brosiect coedwigo yng Nghymru. Mae hyn oherwydd yn bennaf y ffordd y mae CNC wedi gweithio gydag ymgeiswyr ac yn eu helpu i ddatblygu prosiectau i liniaru effeithiau'u prosiectau. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth i’r trothwy presennol fod yn rhwystr i gynyddu plannu coetiroedd newydd yng Nghmru ac mae elfennau amrywiol eraill megis pris tir yn cyfyngu'n fawr ar faint o goed y gellir eu plannu. Felly mae’n synhwyrol i gadw’r trothwy cyfredol yn y Rheoliadau.

Er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn dal yn gryf o blaid plannu mwy o goed er mwyn gwneud ardaloedd gwledig yn gadarnach.  Mae’r sector coedwigaeth yn ddiwydiant hollbwysig yng Nghymru ac mae plannu coed yn help i atal llifogydd, i leihau llygredd gwasgaredig, mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a darparu swyddi yn y diwydiannau gweithgynhyrchu ac adeiladu.  Hefyd mae coetiroedd yn darparu hafan i fywyd gwyllt ac i bobl ymweld gan gyfrannu at iechyd meddyliol a chorfforol a llesiant cyffredinol.

Bydd Llywodraeth Cymru a CNC yn gweithio gyda'i gilydd yn 2017 i greu mesurau i helpu rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion newydd ar gyfer creu coetiroedd newydd ac i wella'r ffordd y mae gwahanol drefniadau'r EIA yn gweithio. Bydd hyn yn mynd i’r afael â’r materion sy’n cael eu codi gan ymgynghoreion yn eu hymatebion, gan gynnwys asesu’r cysondeb rhwng cymhwyso rheoliadau coedwigaeth ac amaethyddiaeth yr EIA ac arbrofi â ffyrdd newydd i ddiogelu cynefinoedd pwysig ac ar yr un pryd caniatáu cynnydd yn y coetiroedd newydd sy’n cael eu creu yng nghyd-destun y Polisi Adnoddau Naturiol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i helpu i gyrraedd ein nod o blannu mwy o goed yng Nghymru.

Caiff yr ymateb i'r cyd-ymgynghoriad ei gyhoeddi ar ôl yr Etholiad Cyffredinol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad pwysig hwn.